Swyddog Marchnata – Y Gymraeg Yn Hanfodol

Math
Llawn Amser
Cytundeb
Parhaol
Cyflog
£26,037
Application closing date
Wed 10 Dec 2025
Mae Theatr y Sherman yn dymuno penodi Swyddog Marchnata i ymuno â'i thîm Cynulleidfaoedd a Chyfathrebu deinamig sy'n cyflawni i lefel uchel.
Bydd y Swyddog Marchnata yn cefnogi gwaith Theatr y Sherman i gysylltu â chynulleidfaoedd ar draws y de-ddwyrain a’r tu hwnt ac i greu incwm. Cynigir y swydd hon fel swydd lawn amser, barhaol. Bydd y swydd hon yn dechrau dim hwyrach na dydd Llun 2 Chwefror 2026.   Dyddiad cau: 10am, ddydd Mercher 10 Rhagfyr 2025 Cyfweliad: dydd Mercher 17 Rhagfyr 2025 Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch cyn i chi wneud cais, cysylltwch â ni drwy e-bostio recruitment@shermantheatre.co.uk. Rydyn ni wedi ymrwymo i fod yn ofod amrywiol a chynhwysol sy’n perthyn i bobl de-ddwyrain Cymru. Rydyn ni’n croesawu’n arbennig geisiadau gan gymunedau ac unigolion sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein tîm ar hyn o bryd. Rydyn ni’n aelod o’r cynllun Hyderus o ran Anabledd ac mae’r adeilad yn hygyrch, ym Mlaen y Tŷ a gefn llwyfan. Mae pecynnau cais Cymraeg a Saesneg ar gael yn www.shermantheatre.co.uk/swyddi. Ariennir Theatr y Sherman gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Rydyn ni’n ymroddedig i Gyfleoedd Cyfartal ac yn Elusen Gofrestredig.