Swyddi

Dewch i ymuno â Theatr y Sherman

Ymunwch â ni yn Theatr y Sherman.

Darganfyddwch ein swyddi gwag presennol isod a dewch i weithio gyda'n tîm gwych yn Theatr y Sherman.

CYNORTHWYDD BAR A CHEGIN
£8.91 yr awr

Oes gennych chi brofiad o baratoi bwyd neu’r ddealltwriaeth o weithio mewn cegin brysur? ‘Ydych chi’n berson hwyliog a chymwynasgar? Allwch chi roi croeso cynnes i’n cwsmeriaid, fel eu bod yn awyddus i ymweld â’r theatr dro ar ôl thro? Os felly, gallwch fod yn rhan allweddol o’n tîm Bar a’r Gegin.

  • Mae hyblygrwydd yn hanfodol oherwydd bydd oriau gwaith yn newid o wythnos i wythnos.
  • Bydd yr ymgeisydd llwyddianus yn cael ei gyflogi ar cytundeb sero awr.

CYNORTHWYDD SWYDDFA DOCYNNAU
£9.01 yr awr

Ydych chi’n unigolyn llawen a chymwynasgar, sy’n gallu cynnig croeso cynnes i’n cwsmeriaid, a fyddai’n gwneud iddyn nhw fod eisiau ymweld â’r theatr dro ar ôl tro? Allwch chi ein helpu ni i werthu mwy o docynnau? Os felly, gallech fod yn rhan hanfodol o dîm ein Swyddfa Docynnau.

Rydyn ni’n recriwtio ar gyfer nifer o Gynorthwywyr y Swyddfa Docynnau, ac mae’n rhaid i rai ohonynt allu cyfathrebu’n rhugl drwy gyfrwng y Gymraeg. Rhagor o wybodaeth:

• Mae hyblygrwydd yn hanfodol gan y bydd oriau gweithio yn newid o wythnos i wythnos.

• Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael ei gyflogi ar gytundeb dim oriau.

Dyddiad cau: Hanner dydd, ddydd Gwener 22 Hydref 2021

 

BOX OFFICE SUPERVISOR
£18,658 y flwyddyn pro rata

Mae Theatr y Sherman yn chwilio am unigolyn deinamig sy’n canolbwyntio ar gwsmeriaid i lenwi swydd ran-amser barhaol yn nhîm y Swyddfa Docynnau. Bydd Goruchwylwyr y Swyddfa Docynnau yn cefnogi’r Rheolwr Gwerthu a Mewnwelediad drwy ddirprwyo yn eu habsenoldeb, gan gyflawni dyletswyddau craidd y Swyddfa Docynnau, sy’n cynnwys darparu gwasanaeth i gwsmeriaid o’r safon uchaf, gwneud y mwyaf o gyfleoedd gwerthu, cynorthwyo â gweithgarwch marchnata, a gwneud y mwyaf o weithrediad Derbynfa Theatr y Sherman. Er mwyn helpu i sicrhau ein bod ni’n parhau i ddarparu gwasanaeth ardderchog i gwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg, mae angen siaradwr Cymraeg rhugl ar gyfer y swydd yma. Mae’r swydd yma’n hanfodol i’r sefydliad wrth i ni symud tuag at groesawu ein cynulleidfaoedd yn ôl ar gyfer perfformiadau wyneb yn wyneb.

Dyddiad cau: Hanner dydd, ddydd Mercher 05 Tachwedd 2021
Cynhelir y cyfweliadau ddydd Mercher 12 Tachwedd 2021

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch cyn i chi wneud cais am unrhyw un o’r swyddi uchod, cysylltwch â ni drwy e-bostio recruitment@shermantheatre.co.uk

Rydyn ni’n awyddus i ychwanegu at amrywiaeth ein gweithlu, felly rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan gymunedau sy’n cael eu tangynrychioli yn ein tîm ar hyn o bryd yn benodol. Mae ein hadeilad yn hygyrch i gyrraedd Blaen y Tŷ a chefn llwyfan.

Ariennir Theatr y Sherman gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Rydym yn ymroddedig i Gyfleoedd Cyfartal ac yn Elusen Gofrestredig.