Galwad Agored ar gyfer Rolau Cynhyrchu a Thechnegol ar gyfer Macbeth [Re]imagined

Application closing date
Fri 30 Oct 2026

Galwad Agored ar gyfer Rolau Cynhyrchu a Thechnegol ar gyfer Cynhyrchiad Theatr y Sherman o: Macbeth [re]imagined gan William Shakespeare Golygfeydd a deialog ychwanegol gan Rebecca Jade Hammond

Rydyn ni’n gwahodd pobl i gyflwyno eu diddordeb a’u CV i’w hystyried er mwyn ymuno â’r tîm Cynhyrchu a Thechnegol ar gyfer Macbeth [Re]imagined, wedi’i gyfarwyddo gan Francesca Goodridge, a fydd yn agor yn Theatr y Sherman ac yn teithio i Theatr Torch, Theatr Clwyd a Pontio yn 2027.

Macbeth [re]imagined yw’r ail gynhyrchiad ym menter Craidd, sy’n gydweithrediad rhwng pum sefydliad yng Nghymru – Theatr Clwyd, Theatr y Sherman, Pontio, Theatr Torch, a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Ei chenhadaeth yw gwella cynrychiolaeth brif ffrwd gyda ac ar gyfer gwneuthurwyr theatr Byddar, anabl a niwrowahanol ledled Cymru. Mae hefyd yn ceisio gyrru newid cadarnhaol yn y sefydliadau partner dan sylw, yn ogystal ag yn y sector theatr ehangach.

Y rolau sydd ar gael yw:

1. Rheolwr Llwyfan Cynorthwyol (Y Llyfr)

2. Rheolwr Llwyfan Technegol Cynorthwyol (Technegol a Phwyslais Sain)

3. Pennaeth Sain

4. Rheolwr Cynhyrchu Cynorthwyol

5. Pennaeth Fideo

6. Cynorthwyydd Technegol

7. Rheolwr Gwisgoedd

8. Peiriannydd Fideo

9. Gweithredwr Capsiynau

Gweler isod y Disgrifiadau Swydd ar gyfer pob rôl

Os hoffech gael eich ystyried ar gyfer unrhyw un o’r rolau hyn, anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol byr mewn e-bost yn nodi pa rolau hoffech chi gael eich ystyried ar eu cyfer, a rhannwch unrhyw brofiad rydych chi’n credu sy’n berthnasol. Dylech anfon eich e-bost er sylw Jenny Pearce, Cynhyrchydd at craidd@shermantheatre.co.uk, a dylech hefyd nodi unrhyw ofynion hygyrchedd hoffech eu rhannu.

Y dyddiad cau ar gyfer anfon eich CV yw dydd Gwener 30 Hydref am 12.00pm, a byddwch yn cael gwybod os hoffen ni gwrdd â chi i drafod y rolau cyn diwedd dydd Mercher 4 Tachwedd.

Bydd y cyfarfodydd yn cael eu cynnal ar-lein drwy Teams gyda’r Rheolwr Cynhyrchu, Suzy Somerville, a’r Pennaeth Cynhyrchu a Chynllunio, Mandy Ivory-Castile, un ai ddydd Mawrth 10 Tachwedd neu ddydd Iau 12 Tachwedd.

Os oes angen y wybodaeth hon arnoch mewn fformat arall, anfonwch e-bost at craidd@shermantheatre.co.uk