SEREN HAMILTON YN CYMRYD Y BRIF RAN YNG NGHYNHYRCHIAD THEATR Y SHERMAN O IPHIGENIA YN SBLOT, AR DAITH LEDLED CYMRU

Castio

Bydd Iphigenia yn Sblot, addasiad newydd Branwen Cennard o Iphigenia in Splott gan Gary Owen, yn teithio i 11 o leoliadau ledled Cymru ym mis Awst a mis Medi eleni, ac am y tro cyntaf yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd ac yna cyfres o berfformiadau yn Theatr y Sherman.

Seren Hamilton fydd yn cymryd y brif ran; ei pherfformiad mawr cyntaf wrth iddi orffen ei blwyddyn olaf yn astudio Actio yng Ngholeg Celfyddydau Perfformio Rose Bruford, ac Alice Eklund fydd yn cyfarwyddo’r cynhyrchiad newydd hwn, bron i ddegawd ar ôl iddo ddod yn llwyddiant ysgubol am y tro cyntaf.

Mae’r Iphigenia in Splott gwreiddiol yn sioe un-ddynes, yn ddadansoddiad ffyrnig o’n cymdeithas ac o’r bywydau caled sy’n dod ohoni. Ers ei dangosiad cyntaf yn Theatr y Sherman yn 2015, mae wedi ennill Gwobr James Tait Black am Ddrama 2016 a’r Wobr Drama Newydd Orau yng Ngwobrau Theatr y DU 2015, ac fe deithiodd y cynhyrchiad gwreiddiol Ŵyl Ymylol Caeredin, ledled Cymru a’r DU a chyn belled ag Efrog Newydd a Berlin. Ail-lwyfannodd Lyric Hammersmith ef yn 2022, er clod mawr. Mae Iphigenia in Splott wedi’i chyfieithu a’i pherfformio mewn sawl iaith ledled y byd.

Dwedodd Gary Owen: “Yn y naw mlynedd diwethaf mae Iphigenia in Splott wedi cael ei gweld ledled y byd. Dwi mor ddiolchgar i’r Sherman am ddod a’r sioe adre i Gymru. Ac fel rhywun sydd wedi dysgu Cymraeg, mae’n anrhydedd i fod yn rhan o’r Eisteddfod Genedlaethol. Dwi methu aros i weld sut fydd Alice a Seren yn creu Effie hollol newydd o addasiad Branwen

Dwedodd Alice Eklund: “Rydw i mor gyffrous i gyfarwyddo’r cynhyrchiad yma. Chwaraeodd Iphigenia yn Splott ran enfawr yn fy nghyflwyniad i ysgrifennu newydd ac ni allaf aros i weld stori Effie yn dod yn fyw yn y Gymraeg. Mae creu’r ddrama hon yn teimlo mor amserol, mor berthnasol ac yn wir angenrheidiol ar hyn o bryd. Mae’r Sherman wedi teimlo fel cartref i mi ers 4 blynedd bellach ac rydw i mor ddiolchgar o gael y cyfle i ddod a’r ddrama eiconig yma i’r Stiwdio a ledled Cymru. Mae ysgrifennu Gary gyda chyfieithiad Branwen yn gweddu’n berffaith, ac roedd clywed y ddrama ar lafar am y tro cyntaf wedi cyfleu’r un teimlad egnïol a thanllyd arna i a’r darlleniad cyntaf yr holl flynyddoedd yn ôl. Rwy’n barod i ddechrau gyda’r tîm ar gynhyrchiad newydd o ddrama sydd ar flaen y gad ym myd ysgrifennu newydd yng Nghymru. Gan adeiladu byd newydd o gwmpas Effie, cawn fynd ar daith gyda hi, yn y fan a’r lle

Cefnogir Iphigenia yn Sblot gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Ffeindiwch allan mwy ynglŷn â pherfformiadau Iphigenia yn Sblot yn y Sherman a’r daith fan yma.