Iphigenia yn Sblot

Crëwyd yn y Sherman Perfformiadau yn Gymraeg Theatr

Ysgrifennwyd gan Gary Owen Addasiad Cymraeg gan Branwen Cennard

Cyfarwyddwyd gan Alice Eklund

Hygyrch

  • Thu 29 Aug - 7:30pm Captioned
  • Fri 30 Aug - 6:30pm Captioned
  • Sat 31 Aug - 7:30pm Captioned
  • Mon 2 Sep - 6:30pm Captioned
  • Tue 3 Sep - 7pm Captioned
  • Wed 4 Sep - 7:30pm Captioned
  • Thu 5 Sep - 2pm Captioned
  • Thu 5 Sep - 7:30pm Captioned
  • Fri 6 Sep - 6:30pm Captioned
  • Sat 7 Sep - 2pm Captioned
  • Sat 7 Sep - 7:30pm Captioned

Adolygiad

29 Awst - 7 Medi
Amrywiaeth

Prisiau

Dewiswch Eich Pris: £16 - £20 (Rhagolygon £12 - £16). O Dan 25 Hanner Pris. Consesiynau £2 i ffwrdd.

Gwybodaeth Bellach

  • Iaith: Cymraeg
  • Gofod: Stiwdio
Rhybudd manwl

Mae’r cynhyrchiad hwn yn cynnwys iaith gref, cyfeiriadau rhywiol, themâu sensitif gan gynnwys galar a cholled newydd-anedig, yn ogystal â golygfeydd a allai beri gofid i rai aelodau o’r gynulleidfa. Cliciwch fan hyn am fwy o wybodaeth.

Gadewch i Effie eich tywys chi trwy strydoedd Caerdydd heddiw. Camwch i’w byd. Cymerwch olwg ar sut rydyn ni’n byw, drwy ei llygaid hi.

Mae bron i ddegawd ers i Iphigenia in Splott, drama ddirdynnol Gary Owen, ryfeddu’r byd: gan swyno cynulleidfaoedd ac adolygwyr fel ei gilydd, ennill gwobrau a dod yn llwyddiant ysgubol yn rhyngwladol.

Yn fwy perthnasol nag erioed, mae un o ddramâu pwysicaf hanes theatr Cymru yn dychwelyd yn 2024, gyda chymaint i’w ddweud am fywyd yng Nghymru heddiw. Daw cynhyrchiad newydd pwerus Alice Eklund o addasiad Cymraeg Branwen Cennard â’r clasur tanbaid yn fyw unwaith eto. Yn llawn emosiwn amrwd, empathi, tosturi a chalon, mae Iphigenia yn Sblot yn ysgytwad. Dyma’r ddrama sydd ei hangen ar bob un ohonom ar hyn o bryd.

Perfformiad yn y Gymraeg. Bydd capsiynau Saesneg ar gael ym mhob perfformiad.
Ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru

Mae’r seddi yn y Stiwdio heb eu cadw. Mae Dewiswch Eich Pris yn caniatáu chi i ddewis faint hoffwch chi dalu ar gyfer eich sedd.

Bydd gynulleidfaoedd ar draws Gymru hefyd hefo’r cyfle i weld Iphigenia yn Sblot.

Leoliadau:

3-10 Awst 2024
Eisteddfod Genedlaethol, Pontypridd

29 Awst – 7 Medi 2024
Theatr y Sherman, Caerdydd

10-11 Medi 2024
Theatr y Grand Abertawe

12 Medi 2024
Theatr y Met, Abertyleri

13 Medi 2024
Ffwrnes, Llanelli

14 Medi 2024
Awel-y-Môr, Porthcawl

17 Medi 2024
Theatr Mwldan, Aberteifi

18 Medi 2024
Theatr y Torch, Aberdaugleddau

19-20 Medi 2024
Theatr Soar, Merthyr Tudful

24 Medi 2024
Theatr Brycheiniog, Aberhonddu

25 Medi 2024
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth

26 Medi 2024
Neuadd Dwyfor, Pwllheli

28 Medi 2024
Galeri Caernarfon

Mae perfformiad yn Theatr y Sherman a Theatr Mwldan nawr ar werth.
Fydd fwy o dyddiadau ar gyfer leoliadau eraill yn cael eu cadarnhau yn ystod yr wythnosau nesaf.