Cyflwyno ein Tîm Llenyddol newydd

Uncategorized @cy

Mae’n bleser gennym i gyflwyno Tîm Llenyddol newydd y Sherman; Davina Moss (Rheolwr Llenyddol) a Lowri Morgan (Cydymaith Llenyddol).  Yn ogystal ag adeiladu ar waith gwych yr adran lenyddol dros y flwyddyn ddiwethaf,  mae ganddyn nhw gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer ei dyfodol.

Mi fydd Adran Lenyddol y Sherman yn parhau i ddarparu amrywiaeth o gyfleoedd, gyda rhywbeth i bawb, beth bynnag yw lefel eich sgiliau neu brofiad.

Mae Davina yn ymuno â’r Sherman ar ôl pedair mlynedd fel Rheolwr Llenyddol yn y Hampstead Theatre yn Llundain. Mae ei gwaith blaenorol yn cynnwys swyddi yn y Public Theater (Efrog Newydd) ag New Works yn y Liverpool Everyman and Playhouse. Fel dramatwrg llawrydd, mae ei phrosiectau arwyddocaol yn cynnwys y cynhyrchiad cyntaf o The Merchant of Venice yn y ghetto Fenisaidd gyda’r grŵp theatr Eidalaidd-Americanaidd Compagnia de’ Colombari, a gwaith gyda Gwobr Bruntwood, Kali Theatre a’r BBC.

Mae Lowri yn ddramodydd ac yn ddramatwrg sydd yn siarad Cymraeg. Ers graddio yn 2019 mae Lowri wedi gweithio gyda chwmnïau theatr ledled Cymru megis Theatr Genedlaethol Cymru, Cwmni’r Fran Wen a Dirty Protest. Cynhyrchwyd drama gyntaf Lowri, Cuddio gan Brifysgol Cymru’r Drindod Dewi Sant ym mis Mehefin 2021 ac ers hynny mae Lowri hefyd wedi ysgrifennu ar gyfer y gyfres deledu Cymraeg Rownd a Rownd.

Cyfarfod Neuadd y Dref – Dydd Mercher 25 Ionawr, 6:30yh, Sherman Theatre

Bydd Davina a Lowri wrth eu boddau petaech yn ymuno â nhw mewn Cyfarfod Neuadd y Dref ar nos Fercher, Ionawr 25 am 6.30yh yn y Sherman. Yma byddent yn cyflwyno eu gweledigaeth ar gyfer y camau nesaf yng ngwaith yr adran. Bydd y sesiwn yn para tuag awr. Mi fydd y digwyddiad yma yn gyfle iddyn nhw gyflwyno eu hunain, i gwrdd â chi, ac i ddarganfod sut gall y Tîm Llenyddol fod yn ddefnyddiol i’r gymuned ysgrifennu wych yng Nghymru. Maen nhw eisiau i’ch mewnbwn chi fod yn ganolog i lunio dyfodol yr Adran.

Er mwyn rheoli niferoedd, byddwn yn ddiolchgar petaech yn rhoi gwybod iddyn nhw os ydych am fynychu trwy e-bostio literary@shermantheatre.co.uk.

Bydd Neuadd y Dref yn cael ei ddehongli yn BSL. Os oes gennych gofynion hygyrch ychwanegol, os gwelwch yn dda gadewch I ni wybod.

Os ydych chi’n rhagweld trafferth mewn mynychu’r cyfarfod mewn person, er enghraifft; os nad ydych chi’n byw yng Nghaerdydd, cysylltwch drwy’r e-bost uchod.

image
Davina Moss (chwith) a Lowri Morgan (dde) - llun Tracey Paddison