CYFARFODYDD

Cynhaliwch eich cyfarfod mewn lleoliad gwahanol yng nghanol y ddinas. Mae ein hystafelloedd cyfarfod gwych yn cynnig lleoliad proffesiynol gydag awyrgylch hamddenol. Mae'r ystafelloedd cyfarfod yn amrywio o ran maint ac yn cynnig gofod sy'n addas i 2 - 6 o bobl neu i fwrdd neu ddosbarth llawn.

Ystafell Gyfarfod yr Islawr: Gellir gosod ein hystafell gyfarfod bwrpasol fwyaf ar gyfer nifer o gynlluniau gan gynnwys ystafell fwrdd, ystafell ddosbarth neu gyfweliad. Mae gan yr ystafell sgrin fideo fawr ar gyfer cyflwyno. Mae taflunydd ar gael hefyd.

Ystafell Gyfarfod y Llawr Cyntaf: Mae’r ystafell hon yn ddelfrydol ar gyfer cyfweliadau, sesiynau gwaith a chyfarfodydd llai. Mae sgrin arddangos fideo ar gael. Mae gan yr ystafell olau naturiol yn ogystal â goleuadau uwchben.

Gellir hefyd addasu ein hystafelloedd ymarfer ar gyfer cyfarfodydd mwy.

Cysylltwch â ni i gael sgwrs am eich cyfarfod. Byddwn yn falch iawn o ddarparu ystod o opsiynau i chi sy’n ymateb i’ch anghenion.