Gŵyl Gomedi BBC 2023

Dydd Mercher 24 - dydd Gwener 26 Mai 2023. Mae tîm Comedi y BBC yn eich gwahodd i ymuno â nhw, a llu o westeion arbennig, yng Nghaerdydd — Dinas Gomedi 2023 y BBC— er mwyn archwilio, dathlu a myfyrio ar gomedi.

Cliciwch drwodd ar bob digwyddiad i archebu tocyn.

Gwybodaeth pwysig am archebu tocynnau:

  • Bydd modd archebu un tocyn fesul digwyddiad.
  • Mae nifer cyfyngedig o docynnau ar gael, ac mae gennych chi gyfnod o wythnos i’w harchebu cyn i’r tocynnau gael eu rhyddhau i gynulleidfa ehangach. Archebwch eich tocynnau erbyn 19 Ebrill er mwyn sicrhau eich lle.
  • Nid oes modd trosglwyddo’r tocynnau i eraill.
  • Dim ond ar-lein y gellir archebu tocynnau ac nid dros y ffôn.
  • Os na allwch chi fynychu’r digwyddiad ar ôl archebu, cysylltwch â Theatr y Sherman.
  • Bydd tocynnau ar gyfer digwyddiadau yn y Sherman yn cael eu hanfon atoch dros e-bost. Os ydych wedi archebu ar gyfer digwyddiadau mewn lleoliadau eraill, byddwch yn derbyn cadarnhad dros e-bost a bydd angen i chi ddangos yr e-bost i aelod o staff y BBC pan gyrhaeddwch y lleoliad yna.
  • Ar gyfer perfformiad y contract ac i hwyluso eich pryniant, bydd enw pob archebwr yn cael ei rannu gyda threfnwyr y digwyddiad (BBC). Bydd eich manylion yn cael ei gadw tan ddiwedd yr Ŵyl

Gwybodaeth am Hygyrchedd:

  • Bydd deialog byw yn y digwyddiadau gyda chapsiynau a dehongliad BSL, a bydd isdeitlau ar y clipiau fideo. Os hoffech ragor o wybodaeth am ddarpariaeth Hygyrchedd yr Ŵyl, cysylltwch â comedyevents@bbc.co.uk.
  • Mae mynediad cadair olwyn ar gael yn ein Stiwdio a’r Brif Theatr – os ydych angen lle i gadair olwyn, rhowch wybod i’r Swyddfa Docynnau ar ôl archebu eich tocyn (029 2064 6900 neu box.office@shermantheatre.co.uk).
  • Mae gwybodaeth am Hygyrchedd yn y Sherman ar gael here. . Os hoffech ddarganfod mwy am Hygyrchedd yn y Sherman neu i’n gwneud yn ymwybodol o’ch gofynion Hygyrchedd, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau (029 2064 6900 neu box.office@shermantheatre.co.uk).

*********************************************************************************

DYDD MERCHER 24 MAI

20.00 – 22.00
COMEDY NOSON FFILMIAU BYRION
LLEOLIAD – Theatr y Sherman, Ffordd Senghennydd, Caerdydd CF24 4YE

A oes angen noson i ffwrdd arnoch o sgwrsio gyda’ch cyfoedion a’ch ffrindiau? Beth am eistedd mewn ystafell dywyll a phiffian chwerthin ar ffilmiau comedi byr. Byddwn yn arddangos gwaith gan dalent newydd o bob cwr o’r DU.

*********************************************************************************

DYDD IAU 12 MAI

09.30 – 10.00 – Cyrraedd

10.00 – 11.30 (Prif Dŷ)
BBC Comedy – Diweddariad Comisiynu
Ymunwch â Jon Petrie, Cyfarwyddwr BBC Comedy, a gwesteion arbennig ychwanegol i ymhelaethu ar y weledigaeth a’r cynlluniau ar gyfer BBC Comedy yn 2023. Peidiwch â’i golli!

Ar gyfer unrhyw un fydd yn cyrraedd yn hwyr, bydd y digwyddiad yn cael ei ddangos yn y Stiwdio yn Theatr y Sherman.

**********************************************************************

12.00 – 13.00 (Prif Dŷ)
Sgwrs gyda… Sharon Horgan
Mae’r polymath comedi byd-enwog, Sharon Horgan, wedi creu, cyfarwyddo neu ysgrifennu nifer o gomedïau, gan gynnwys Bad Sisters, Catastrophe, Divorce, Motherland a Pulling. Ymunwch â hi mewn sgwrs gyda Holly Walsh yn siarad am ei gyrfa a’i phrofiadau ar ddwy ochr y camera.

NEU

12.15 – 13.00 (Stiwdio)
Cenhedloedd Unedig Comedi
Bydd Emma Lawson, Gregor Sharp, Eddie Doyle, Gavin Smith a Paul Forde o’r BBC, ac Adam Bouabda o Sea and Sky Pictures yn pwyso a mesur llwyddiant Dinas Gomedi y llynedd, a’n partneriaethau ar draws y Gwledydd. Byddwn yn cyhoeddi datblygiadau newydd, yn ogystal â siarad am gynlluniau a dyheadau ar gyfer Caerdydd, sef Dinas Gomedi eleni, yn ogystal â’r holl gyfleoedd newydd sydd gennym ledled y DU y gall y sector annibynnol fod yn rhan ohonynt.

**********************************************************************

13.30 – 14.15 (Stiwdio)
Y Busnes o Gynhyrchu Comedi
Ymunwch â’r penaeth busnes blaenllaw Rebecca O’Connor i drafod popeth roeddech chi erioed eisiau ei wybod am gyd-gynhyrchu, cyllid ar gyfer diffyg a thueddiadau newidiol, yn ogystal ag ystyriaethau’r BBC mewn perthynas â’r busnes o gynhyrchu comedi. Cyflwynir gan y dyn busnes comedi blaenllaw, Kenton Allen.

**********************************************************************

14.00 – 15.00 (Prif Dŷ)
Y Bennod Gyntaf Ddyrys
Ymunwch â Phil Clarke, Bisha K Ali, Nida Mansoor a Tom Basden wrth iddyn nhw ddadansoddi beth mae’n ei olygu i greu pennod gyntaf / peilot llwyddiannus. Bydd ein gwesteion yn rhannu mewnwelediadau o sioeau poblogaidd fel Peep Show, Ms Marvel, We Are Lady Parts a Here We Go.

NEU

14.45 – 15.30 (Stiwdio)
Ffoniwch Fy Asiant Comedi!
Clywch rai o asiantwyr gorau’r DU yn siarad am y newidiadau dramatig sydd wedi digwydd yn y diwydiant comedi dros y degawd diwethaf. Bydd y panelwyr yn cynnwys Duncan Hayes (Ricky Gervais, Sharon Horgan), Maureen Vincent (Dawn French, Jennifer Saunders) a Rebecca Dowell (Munya Chawawa, Amelia Dimoldenberg).

**********************************************************************

15.45 – 16.45 (Prif Dŷ)
Sgwrs gyda… Jesse Armstrong
Peep Show, Fresh Meat, The Thick Of It, Succession… mae Jesse Armstrong, sydd wedi ennill sawl gwobr, yn gyfrifol am rai o’r cyfresi teledu mwyaf doniol a mwyaf eiconig erioed. Beth yw ei gyfrinach? Efallai y bydd yn dweud wrthym yn y sesiwn hwn. Dim ad-daliadau os nad yw’n gwneud hynny.

NEU

16.15 – 17.15 (Stiwdio)
Allwch chi ddim dweud hynny!
Wel… beth allwch chi ei ddweud? A dweud y gwir… tra ein bod ni yma, beth allwch chi ei wneud i greu amgylcheddau hygyrch hefyd? Mae’r sesiwn hwn wedi’i gynllunio i helpu gyda hynny! Wedi’i greu gan y TV Access Project, mae’r 5 A – Anticipate, Ask, Assess, Adjust ac Advocate – yn ganllawiau ar gyfer cynhwysiant anabl mewn cynyrchiadau teledu yn y DU. Yn y sesiwn hwn, bydd yr awdur comedi sefyllfa, Laurence Clark, a’r actores, Melissa Johns, o’r cwmni sy’n cael ei arwain gan bobl anabl, Triple C, sydd wedi ennill gwobrau BAFTA, yn eich tywys drwy sut mae defnyddio’r 5 A mewn cynyrchiadau comedi.
*********************************************************************************
18.00 – 19.00 (Prif Dŷ)
Sgwrs gyda… Rob Brydon
Ymunwch â ni am awr yng nghwmni’r trysor cenedlaethol, Rob Brydon, wrth iddo drafod ei yrfa ym myd comedi, gan gynnwys ysgrifennu, actio, dynwared, stand up a chyflwyno, gydag Ash Atalla, y cynhyrchydd sydd wedi ennill gwobrau BAFTA.

*********************************************************************************

20.00 – 22.30
DANGOSIAD CYNTAF FFILMIAU BYRION BBC COMEDY
LLEOLIAD: Sinema Everyman, Cei’r Fôr-forwyn, Unedau 13 ac 14, Caerdydd CF10 5B
Fe’ch gwahoddir i noson ragflas o ffilmiau byrion BBC Comedy. Dewch, ymlaciwch, bwytewch bopgorn, DIFFODDWCH EICH FFONAU, a dathlwch y cydweithio creadigol sydd ar y gweill gan gomediwyr hen a newydd yn y DU.
Noder, ar ôl archebu ar gyfer y digwyddiad yma byddwch yn derbyn cadarnhad dros e-bost a bydd angen i chi ei ddangos i aelod o staff y BBC pan gyrhaeddwch Everyman Cinema.

NEU

20.30 – 22.00
RECORDIAD BYW O’R PODLEDIAD DMS ARE OPEN!
LLEOLIAD: Stiwdio Betty Campbell yn Tŷ Darlledu Newydd BBC Cymru Wales
Daw sioe drws agored Radio 4 Extra, DMs Are Open, i Ŵyl Gomedi’r BBC yng Nghaerdydd. Bydd cast o actorion o Gymru yn ymuno â’r cyflwynwyr, Athena Kugblenu ac Ali Official, i berfformio sgetsys a jôcs sydd wedi’u cyflwyno gan y cyhoedd.
Noder, ar ôl archebu ar gyfer y digwyddiad yma byddwch yn derbyn cadarnhad dros e-bost a bydd angen i chi ei ddangos i aelod o staff pan gyrhaeddwch Tŷ Darlledu Newydd BBC Cymru Wales.

*********************************************************************************

DYDD GWENER 26 MAI

09.30 – 10.00 – Cyrraedd

Mae’r trydydd diwrnod wedi’i anelu at unrhyw un sydd â gyrfa newydd ym maes teledu a chomedi, a phobl sy’n awyddus i gael cyfle neu ddatblygu eu gyrfa yn y diwydiant.

10.00 – 1.00 (Prif Dŷ)
Kayleigh Llewellyn – Tu Hwnt i BAFTA
Ymunwch â’r awdur arobryn, Kayleigh Llewellyn (In My Skin, Killing Eve, Stella) wrth iddi siarad am ei gyrfa a sut y cafodd ei chyfle cyntaf yn y diwydiant.

NEU

10.15-11.15 (Stiwdio)
Ysgrifennu ar gyfer Comedi Clywedol
Yn ymuno â Richard Morris (Cyfarwyddwr Creadigol Sain yn BBC Studios Comedy) bydd Rajiv Karia (Cynhyrchydd, DMs Are Open, BBC Radio 4) a phanel o westeion i siarad am ysgrifennu comedi dychanol ar gyfer sioeau BBC Radio 4 fel The Now Show, The News Quiz, Dead Ringers a DMs Are Open, yn ogystal â’r broses o ddatblygu Sain i’r Teledu a chyfleoedd eraill o fewn y byd Comedi Clywedol.

*********************************************************************************

11.30 – 12.30 (Prif Dŷ)
Dosbarth Meistr Cymeriadau Comedi gyda Jamie Demetriou, Diane Morgan, Katy Wix a Danielle Vitalis
Dewch i glywed am deithiau’r actorion comedi adnabyddus hyn, sydd wedi ennill sawl gwobr BAFTA rhyngddynt. Sut mae datblygu cymeriad comedi yn wahanol i’r broses sgriptio gonfensiynol a pham ei bod mor anodd?!

NEU

11.45 – 12.45 (Stiwdio)
COMISIYNU: Popeth yr oeddech chi eisiau ei wybod ond yr oeddech yn rhy ofnus i’w ofyn
Ymunwch ag Iyare Igiehon gyda gwesteion yn cynnwys Tanya Qureshi a Maddy Addy wrth iddynt graffu ar broses gomisiynu’r BBC. Dyma’r lle i ofyn unrhyw beth y dymunwch i’r bobl a allai feddu ar yr atebion. (Ond peidiwch â disgwyl ateb sydyn).

***************************************************************************

13.15 – 14.00 (Stiwdio)
Golygu Comedi
Amseru yw popeth ym myd comedi, ac nid oes neb yn deall hynny’n well na’r golygydd. Ymunwch â Gareth Heal (People Just Do Nothing, Chewing Gum) a’r elît golygu wrth iddyn nhw agor y blwch offer golygu comedi a siarad am driciau’r grefft. Dim awyr marw, mae hynny’n sicr.

NEU

13.30 – 14.30 (Prif Dŷ)
DOSBARTH MEISTR TELEDU gyda Peter Baynham
O Gaerdydd i’r Oscars, o gomedi eiconig o Brydain (The Day Today, I’m Alan Partridge, Borat) i ffilmiau rhyngwladol wedi’u hanimeiddio (Ron’s Gone Wrong, Arthur Christmas) – heb anghofio cyfnod yn y llynges fasnachol – dewch i glywed stori ysbrydoledig un o awduron comedi mwyaf llwyddiannus Prydain, Peter Baynham.

*********************************************************************

14.30 – 15.30 (Stiwdio)
SNEAK PEEK, BBC THREE
I’w ddilyn gan sesiwn holi ac ateb gyda’r cast a’r crewyr.

NEU

15.00 – 16.00 (Prif Dŷ)
Sut i fod yn Gynhyrchydd
Ymunwch â Morwenna Gordon a’i gwesteion i ddysgu am bopeth sydd ei angen arnoch i fod yn gynhyrchydd, sut y dechreuodd y gorau yn y busnes a sut y gallwch ddilyn ar eu holau. Sesiwn hanfodol ar gyfer pob darpar gynhyrchydd.

*********************************************************************

16.30 – 17.30 (Prif Dŷ)
Sut i sicrhau sioe deledu gyda Mawaan Rizwan
Bydd Mawaan yn eistedd lawr gyda’r Pennaeth Datblygu Talent, Navi Lamba, i drafod ei daith o YouTube i greu a serennu yn ei gyfres deledu gyntaf erioed ar gyfer BBC Three, Juice.

*********************************************************************

18.30 (Prif Dŷ)
Dangosiad Arbennig o Man Like Mobeen gyda sesiwn holi ac ateb gyda Guz Khan