Galwad Agored am Gyfarwyddwr i Elen Benfelen / Goldilocks

Crewyr Theatr
Cyfle i Gyfarwyddo Sioe Ddwyieithog Nadolig i blant 3-6 oed yn Stiwdio Theatr y Sherman

Mae Theatr y Sherman yn chwilio am Gyfarwyddwr sy’n siarad Cymraeg ac yn frwdfrydig dros theatr deuluol i gyfarwyddo ein Sioe Nadolig ar gyfer plant 3-6 oed.

Mae ein sioeau Nadolig yn y Stiwdio yn gyflwyniad perffaith i’r theatr i blant, ac eleni rydyn ni’n falch o gyflwyno Elen Benfelen / Goldilocks ag ysgrifennwyd gan un o ysgrifennwyr mwyaf cyffrous Cymru, Elgan Rhys.

Yn cynnwys cast o 3 Actor-Gerddor, bydd yr addasiad newydd yma yn olwg ffres a chyfoes ar y chwedl draddodiadol ac yn llawn hud a lledrith.

Bydd Elen Benfelen / Goldilocks yn agor yn Stiwdio’r Sherman cyn mynd ar daith 3 wythnos i leoliadau ar draws De Cymru, cyn dychwelyd adref i’r Sherman am weddill yr ŵyl Nadolig.

Bydd angen i’r Cyfarwyddwr fod ar gael o ddydd Llun 10 Hydref tan ddydd Sadwrn 5 Tachwedd 2022 ac o ddydd Llun 28 Tachwedd tan ddydd Sadwrn 3 Rhagfyr 2022.

Bydd ffi hollgynhwysol o £4200 yn cael ei dalu mewn rhandaliadau yn ystod y prosiect.

I wneud cais, anfonwch CV a llythyr eglurhaol at artistdevelopment@shermantheatre.co.uk erbyn canol dydd, dydd Gwener 27 Mai 2022.Rhowch fanylion am:
• Pam fod gennych ddiddordeb mewn gweithio ar y cynhyrchiad.
• Pam mai dyma’r cyfle cywir ar gyfer eich datblygiad proffesiynol.
• Eich profiad perthnasol a’r hyn y gallwch ei gyfrannu at y rôl