Theatr y Sherman

Ymlaen â’r Sioe: Young Queens

Archive

Adolygiad

Llun 18 Hydref 2021
6.30pm

Gwybodaeth Bellach

  • Ofod: Y Stiwdio
  • Seddi: Seddau arddull Cabaret
  • Iaith: Saesneg

Young Queens

Mae Ymlaen â’r Sioe yn cynnig profiadau sy’n golygu rhywbeth arbennig i chi yn Theatr y Sherman. Mae arddangos lleisiau cymunedol yn rhan hynod bwysig o’n rhaglen ni fel theatr ac ni allem ragweld yr ŵyl hon heb y math hwn o waith.

Rydym felly’n falch iawn o gyflwyno noson o berfformiadau ysbrydoledig gan yr Young Queens mewn cydweithrediad â’r Hayaat Women Trust. Trwy farddoniaeth a drama bydd yr awduron a’r perfformwyr ifanc Somalïaidd Cymreig yn rhannu eu profiadau o’r byd o’u cwmpas a chymhlethdod cyfeillgarwch. Bydd y sioe hefyd yn cynnwys sgwrs fer am gymuned Somalïaidd Caerdydd. Bydd Ymlaen â’r Sioe: Young Queens yn gyfle i ddod i adnabod un o gymunedau bywiocaf y ddinas a’r bobl ifanc sy’n rhan hanfodol ohoni.

Gŵyl Ymlaen â’r Sioe (yn cynnwys Golwg Gwahanol, Nosweithiau Comedi, Ail-Chwarae a’r Young Queens):
1 sioe £9,
Unrhyw 2 sioe £15,
Unrhyw 3 sioe £20,
Unrhyw 4 sioe £24
(Rhaid archebu tocynnau aml-sioe ar yr un pryd),
Dan 25 oed Hanner Pris