Music Theatre Wales

Violet

Opera
Archive

Adolygiad

8 Mehefin 2022
8.00yh

Gwybodaeth Bellach

  • Iaith: Saesneg gydag Isdeitlau Cymraeg
  • Gofod: Y Brif Theatr
Gwybodaeth Pwysig

Noder, os gwelwch yn dda, fod y cynhyrchiad hwn yn cynnwys iaith gref.

Mae hon yn opera ar gyfer, ac am, ein dyddiau ni.

Yn gwisgo gŵn nos fudr, mewn cegin wledig, mae Violet yn gwenu o’r diwedd. Ers blynyddoedd lawer, mae ei threfn ddyddiol flinedig yn cael ei rheoli gan daro cyson Cloc y Tŵr – ond un noson mae hi’n teimlo amser yn cyflymu. Yn sydyn, mae awr yn mynd ar goll – bob dydd. Wrth i’r oriau ddiflannu, mae’r hyn a fu’n sicr ers cyhyd yn anweddu, a chymdeithas drefnus yn mynd ar gyfeiliorn. Gyda thrigolion y dref mewn argyfwng, a fydd Violet yn gallu dianc o’r diwedd?

Gan gyfuno talentau arobryn yr awdur Alice Birch (mae ei haddasiadau ar gyfer y teledu’n cynnwys Normal People; ffilm Lady Macbeth; llwyfan Anatomy of a Suicide) a’r cyfansoddwr talentog Tom Coult (comisiynwyd gan Noson Gyntaf y Proms; ar hyn o bryd mae’n gyfansoddwr preswyl gyda Cherddorfa Ffilharmonig y BBC), mae hon yn opera ar gyfer, ac am, ein dyddiau ni.

Cenir yn Saesneg, gydag Isdeitlau Cymraeg.

Y Tîm Creadigol
Cerddoriaeth: Tom Coult
Libreto: Alice Birch
Arweinydd: Andrew Gourlay
Cyfarwyddwr: Jude Christian
Cynllunwyr: Rosie Elnile
Dylunydd Gwisgoedd: Cécile Trémolières
Cynllunydd Goleuo: Jackie Shemesh
Dylunydd Sain: Sound Intermedia
Animeiddiad: Adam Sinclair
Cerddorfa: London Sinfonietta
Bell Sounds wedi’i greu gan Jasmin Kent Rodgman

Cast
Violet: Anna Dennis
Felix: Richard Burkhard
Laura: Frances Gregory
The Clockkeeper: Andrew MacKenzie Wicks

Cyd-gynhyrchiad gan Music Theatre Wales a Britten Pears Arts
Llwyfennir y cynhyrchiad ar y cyd â’r London Sinfonietta
Comisiynwyd gan Music Theatre Wales a Britten Pears Arts mewn cydweithrediad â Theatre Ulm
___

Sylwch nad yw’n ofynnol bellach i aelodau’r gynulleidfa ddangos pas Covid y GIG i gael mynediad i berfformiad.
Mae gwisgo mwgwd yn cael ei annog.

Darganfyddwch fwy am y camau rydym yn eu cymryd i gadw ein cynulleidfaoedd a’n staff yn ddiogel.