Adolygiad
30 Ebr - 9 Mai 2026Prisiau
£18 - £32
Gwybodaeth Bellach
- Gofod: Y Brif Theatre
- Iaith: Saesneg
Am ragor o wybodaeth cliciwch yma
“This show has everything – it’s deeply funny but emotionally deep, quirky and eccentric but resonant and relevant. You’ll love it.”
Kate Wasserberg, Cyfarwyddwr
To begin at the beginning…
Mae trigolion pentref Llareggub yn breuddwydio am gariad coll, cyd-longwyr wedi boddi a phriodasau aflwyddiannus.
Time passes.
Camwch i fyd egsentrig sy’n llawn rhamant, ffantasi, sgandal a chân. Cynhyrchiad doniol, cyffrous a hygyrch o ddrama eiconig y bardd o Gymru, Dylan Thomas.
Gwelwch y sioe os ydych yn hoffi…
- The League Of Gentlemen
- Detectorists (BBC), Twin Peaks (Lynch)
- The Singing Detective (Dennis Potter)
- Our Town by Thornton Wilder
Mae Under Milk Wood yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain integredig a chapsiynau. Mae hyn yn golygu bod pob sioe yn cynnwys arwyddo Iaith Arwyddion Prydain (BSL) a chapsiynau, wedi’u cynnwys yn rhan o ddyluniad y sioe. Os ydych chi’n bwriadu defnyddio’r capsiynau ar y llwyfan, rydym yn eich cynghori i eistedd yn agos at flaen yr awditoriwm. Rydym wedi cadw rhai seddi yn y rhan fwyaf o berfformiadau i unrhyw un sydd eisiau manteisio ar y capsiynau. Plîs e-bostiwch y Swyddfa Docynnau er mwyn archebu’r tocynnau hyn box.office@shermanthetre.co.uk neu ffoniwch 029 2064 6900.
Y cynhyrchiad yma gan Theatr Clwyd yw’r sioe gyntaf i gael ei chreu fel rhan o gydweithrediad Craidd. Nod Craidd yw rhoi hygyrchedd a chynhwysiant wrth wraidd y theatr yng Nghymru. Mae’r consortiwm yn cynnwys Theatr Clwyd, Theatr y Sherman, Pontio, Theatr y Torch a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.