Theatr Genedlaethol Cymru a Theatr y Sherman

Tylwyth

Crëwyd yn y Sherman Theatre

Ysgrifennwyd gan Daf James

Cyfarwyddwyd gan Arwel Gruffydd

Archive

Adolygiad

26 - 30 Medi
7.30yh heblaw 28 Medi am 7.00yh

Gwybodaeth Bellach

  • Iaith: Cymraeg gydag uwchdeitlau Cymraeg a Saesneg
  • Gofod: Y Brif Theatr
  • Hyd: 1 awr 40 munud
Gwybodaeth pwysig

Yn cynnwys iaith gref, golygfeydd o natur rywiol a themau aeddfed. Darganfyddwch Fwy.

Pwerus. Doniol. Dyrchafol.

Mae Aneurin wedi bod yn dianc rhag ei orffennol, ond – mewn tro annisgwyl, diolch i Grindr – mae e wedi syrthio mewn cariad. Pan mae Dan ac yntau’n penderfynu mabwysiadu, mae’r ddau ohonynt ar ben eu digon. Ond wrth addasu i fywyd fel tad, a throi cefn ar orffennol gwyllt, mae ofnau duaf Aneurin yn dychwelyd.

Beth allwch chi ei ddisgwyl gan Tylwyth?
Mae Tylwyth yn ddrama gan Daf James, Artist Cyswllt y Sherman, a fydd yn gwneud i chi chwerthin, yn gwneud i chi feddwl ac yn ddrama fydd yn eich cyffwrdd.

 

Popeth sydd angen i chi ei wybod am Tylwyth:

Unwaith roedd Llwyth, nawr mae Tylwyth
Yn Tylwyth mae’r cymeriadau o ddrama arobryn Daf, Llwyth yn dod at ei gilydd eto. Dyma’r bennod nesaf yn eu stori, ond mae’n sicr yn ddrama y gellir ei mwynhau ar ei phen ei hun.

Cymeriadau na fyddwch yn eu hanghofio
Bydd Tylwyth yn eich cyflwyno i gast gwych o gymeriadau cofiadwy (Aneurin, Rhys, Gareth a Dada), ac fe fyddant yn teimlo fel ffrindiau i chi yn fuan iawn.

Profiad dyrchafol

Nid yn unig y mae Tylwyth yn ffraeth, mae’n hynod deimladwy ac mae diwedd y perfformiad yn uchafbwynt gorfoleddus. Mae’r gerddoriaeth, a ysgrifennwyd gan Daf ei hun, yn chwarae rhan enfawr yn y sioe ac yn cael ei ddefnyddio mewn ffordd annisgwyl.

Sylwebaeth bryfoclyd ar fywyd cyfoes Cymru
Mae Tylwyth yn ddrama sy’n gwneud i ni ystyried y byd o’n cwmpas. Mae’n ddeheuig wrth archwilio themâu sy’n cynnwys rhywioldeb, cymuned, iaith, hunaniaeth genedlaethol a bywyd teuluol.

Mae’n dychwelyd wedi llwyddiant blaenorol
Pan berfformiwyd Tylwyth am y tro cyntaf yn y Sherman yn 2020 fe wnaeth cynulleidfaoedd ac adolygwyr syrthio mewn cariad a’r ddrama. Os na wnaethoch ei gweld y tro cyntaf, neu os hoffech ei gweld eto, dyma gyfle i brofi’r ddrama Gymreig bwysig hon.

 

Bydd y testun yn ymddangos wrth iddo gael ei berfformio ar sgrinau trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ym mhob perfformiad.

BSL gan Cathryn McShane