Cynhyrchiad Crëwyd gan y Sherman mewn cydweithrediad â Theatr Iolo

The Merry Adventures of Maid Marian

Crëwyd yn y Sherman Crёwyd gan y Sherman Nadolig Teulu Theatr

Ysgrifennwyd gan Paul Dodgson

Cerddoriaeth a Geiriau gan Lucy Rivers

Cyfarwyddwyd gan Lee Lyford

Hygyrch

  • Wed 2 Dec - 10:30am Audio Described
  • Wed 9 Dec - 10:30am Audio Described
  • Sat 12 Dec - 2:00pm Audio Described
  • Sat 5 Dec - 2:00pm BSL interpreted
  • Fri 11 Dec - 6:30pm BSL interpreted
  • Sat 19 Dec - 2:00pm BSL interpreted
  • Sat 5 Dec - 2:00pm Relaxed Performance
  • Thu 17 Dec - 2:30pm Relaxed Performance
  • Sat 12 Dec - 2:00pm Captioned
  • Sat 19 Dec - 2:00pm Captioned

Adolygiad

27 Tach 2026 - 2 Ion 2027
Amrywiaeth

Prisiau

£18-£38. Gostyngiadau £2 i ffwrdd. Plant a Dan 25 Hanner Pris.

Rhagddangosiadau Talwch Faint Hoffech 27 & 28 Nov: £5, £10, £15, £20, £25

Gwybodaeth Bellach

  • Oedran: Wedi’i chreu’n arbennig ar gyfer pawb 7 oed a hŷn
  • Gofod: Y Brif Theatr
  • Iaith: Saesneg

Sioe sy’n llawn dop â hwyl yr ŵyl i bawb dros 7 oed

Dewch i brofi llawenydd pur y Nadolig yn y Sherman gyda’n sioe Nadolig yn y Brif Theatr, The Merry Adventures of Maid Marian. Rydyn ni i gyd yn gyfarwydd â stori Robin Hood… ond yn The Merry Adventures of Maid Marian gan Paul Dodgson, cewch brofi’r stori mewn ffordd gwbl newydd.

Dewch i brofi llawenydd pur y Nadolig yn y Sherman gyda’n sioe Nadolig yn y Brif Theatr, The Merry Adventures of Maid Marian. Rydyn ni i gyd yn gyfarwydd â stori Robin Hood… ond yn The Merry Adventures of Maid Marian gan Paul Dodgson, cewch brofi’r stori mewn ffordd gwbl newydd.

Mae’r addasiad newydd a chwareus hwn o’r chwedl yn mynd â ni i goedwigoedd hudolus Morgannwg yn yr Oesoedd Canol, lle mae digon o anhrefn a mymryn o hud a lledrith. Mae’r stori hon yr un mor orlawn â chist drysor y Sheriff, gyda digonedd o anturiaethau direidus, caneuon gwreiddiol hyfryd gan Lucy Rivers, wedi’u perfformio gan ein cast gwych o actorion-gerddorion, a llwyth o chwerthin. Mewn cynhyrchiad ysblennydd gan Lee Lyford, mae digon o gyffro, helynt, cleddyfa a mentro i’w disgwyl, a hynny i gyd ar set odidog Carl Davies.

Y stori: mae Robin Hood a’i griw o herwyr yn dwyn o’r bobl gyfoethog ac yn cadw’r cyfan mewn pentyrrau. Ddim yn swnio’n hollol iawn, nac ydy? Wel, dyna oedd yn digwydd cyn i Marian ymddangos. Mae hi’n dangos i Robin sut y gallan nhw, gyda’i gilydd, gyflawni rhywbeth mwy a gwella bywydau’r werin bobl. Ymunwch â Marian wrth iddi frwydro i achub ei chwaer Much, sydd wedi’i charcharu gan y Sheriff o Glamorgan, y dyn drwg sy’n gwirioni ar gaws, sy’n cael ei chwarae gan un o ffefrynnau cynulleidfa’r Sherman, Keiron Self.

Dewch i ymuno â ni am sioe Nadolig fyrlymus a bendigedig â chalon fawr, wedi’i chreu’n arbennig ar gyfer pawb 7 oed a hŷn. Os ydych chi’n chwilio am brofiad Nadoligaidd sy’n cynnig rhywbeth ychydig yn wahanol a digon o adloniant, mae The Merry Adventures of Maid Marian yn sicr o daro’r nod!

 

Rhagddangosiadau Talwch Faint Hoffech: 27 & 28 Nov
£5, £10, £15, £20, £25

2 oedolyn a 2 blentyn am £54
Gyda’n seddi Band D gall 2 oedolyn a 2 blentyn weld The Merry Adventures of Maid Marian am £54. (Yn amodol ar argaeledd).

 

Perfformiadau Hygyrch:

Dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain: Julie Doyle

Disgrifiwr Sain: Michelle Perez

Sgrindeitlo Byw: Erika James

Deaf Theatre Club: 19 Rhag, 2pm

 

Darluniad gan Emily Jones