Llythyron Siôn Corn

Llythyron Siôn Corn

£8

Item added to basket

Add to basket failed. Please reload the page and try again

Pob pris yn cynnwys TAW

Mae’r amser wedi dod i wasgaru hud a lledrith y Nadolig!

Drwy gefnogi Theatr y Sherman dros y gaeaf, cewch rywbeth wirioneddol arbennig yn ôl.

Rydyn ni wedi cysylltu â’r corachod unwaith eto ac yn cydweithio â Siôn Corn i sicrhau bod eich plant yn cael profi ychydig o hud y Nadolig cyn i’r diwrnod mawr gyrraedd.

Gallwch dderbyn llythyr gan y dyn ei hun, naill ai yn aros ar eich sedd pan fyddwch yn ymweld â’r theatr (yn y Brif Theatr yn unig), neu ei gasglu o’r Swyddfa Docynnau. Os hoffech i ni ddanfon y llythyr i’ch cartref, bydd cost ychwanegol o £2 am ei bostio.

Am gyfraniad o £8 yn unig, byddwch yn derbyn llythyr personol gan Siôn Corn ac yn cael gweld cyffro a llawenydd eich plentyn wrth agor yr amlen.

Archebwch heddiw i gael llythyr gan Siôn Corn!