Tales of The Brothers Grimm

Crëwyd yn y Sherman Family Nadolig Theatr

Ysgrifennwyd gan Hannah McPake

Cyfarwyddwyd gan Joe Murphy

Archive

Adolygiad

26 Tach – 31 Rhag 2022
Amseroedd amrywiol

Gwybodaeth Bellach

  • Gofod: Prif Theatr
  • Iaith: Saesneg
  • Hyd: 2 awr a 15 munud, yn cynwys egwyl
Gwybodaeth Pwysig

Sylwch fod y sioe yn cynnwys niwl, mwg, goleuadau sy’n fflachio, strob a cherddoriaeth uchel.

Ar gyfer oedran 7+

Nadoligaidd. Twymgalon. Hwyliog.

Caerdydd, 1913. Noswyl Nadolig. Mae mam Stevie yn Swffraget, yn ymladd dros yr hawl i bleidleisio. Ond yr unig beth mae Stevie ei eisiau, yw i fod fel pawb arall. Yn y cyfamser, yn y Grimmdom, mae Cinderella, Sleeping Beauty a Rapunzel yn aros am eu cyfle i fyw’n hapus am byth bythoedd.

Ond pan fydd storm yn cludo Stevie i’r wlad hudol hon, mae pethau’n dechrau newid. Dyw’r straeon ddim fel yr oeddem yn ei ddisgwyl. A fydd popeth yn gorffen gyda thrychineb? Neu a all Stevie achub y Grimmdom a dod o hyd i’w stori ei hun?

Beth allwch chi ei ddisgwyl wrth wylio Tales of the Brothers Grimm?
Mae Hannah McPake yn ail-ddychmygu byd y Brodyr Grimm, wedi’i hysbrydoli gan straeon tylwyth teg enwog. Mae’r sioe Nadolig newydd ysblennydd hon yn llawn caneuon a chwerthin, ac yn cael ei pherfformio gan gast eithriadol o actor-gerddorion.

Mae Tales of the Brothers Grimm yn sicr o fod yn wledd theatrig hudolus i bawb dros 7 oed.

Popeth sydd angen i chi ei wybod am Tales of the Brothers Grimm:
Dewch i weld eich hoff gymeriadau o straeon tylwyth teg mewn golau newydd
Mae pawb yn gwybod am straeon tylwyth teg Sinderela, Y Dywysoges Hir ei Chwsg a Rapunzel. Ond pan gaiff Stevie ei chludo i wlad y Brodyr Grimm, does dim byd yn digwydd fel y dylai – ac mae hyn yn rhoi’r cyfle perffaith i ni ail-ddychmygu’r straeon clasurol hyn.

Sioe ysblennydd yn llawn cerddoriaeth fyw
Mae ein cast talentog o actor gerddorion yn perfformio’r holl gerddoriaeth yn y sioe.

Noson hwyliog a llawen i’r teulu cyfan
Mae ein sioe yn llawn gobaith, llawenydd ac ysbryd yr ŵyl. Ymunwch â ni er mwyn rhannu y stori hudolus hon gyda theulu neu ffrindiau.

Rydym yn croesawu rhai wynebau cyfarwydd yn ôl
Efallai y byddwch yn adnabod rhai wynebau cyfarwydd ymhlith y cast – mae Hannah McPake a James Ifan yn dychwelyd wedi iddynt chwarae Scrooge a Beau yn A Christmas Carol y llynedd, tra bod Keiron Self yn dychwelyd wedi iddo chwarae rhan Jacob Marley. Hon fydd seithfed sioe Nadolig Keiron yn y Sherman!

Ysbrydoliaeth i ysgrifennu eich stori eich hun
Mae gan bob un ohonom ein stori ein hunain i’w hadrodd. Ac mae gan straeon y pŵer i newid y byd. Dilynwch arweiniad ein cymeriadau o’r straeon tylwyth teg a chael eich ysbrydoli i feddwl yn wahanol am eich stori eich hun.

 

Mae pris popeth fel petai ar gynnydd ar hyn o bryd, ac rydyn ni eisiau sicrhau bod cost tocynnau o fewn cyrraedd cymaint o bobl â phosib:

  • Gall bawb Dan 25 weld Tales of the Brothers Grimm am hanner pris.
  • Gall 2 Oedolyn a 2 Blentyn weld Tales of the Brothers Grimm o lai na £50 wrth brynu 2 tocyn Band D am £16 yr un a 2 tocyn Band D am hanner pris i blant ac O Dan 25 am £8 yr un (yn amodol ar argaeledd).
  • Rhannwch gost eich tocynnau ar gyfer y sioe yn ddau daliad hafal, gydag un taliad wrth archebu a’r llall wythnos cyn y perfformiad.

Ffoniwch 029 2064 6900 i ddysgu mwy (ar gael i archebion o £20 neu fwy).

Perfformiad AD 10 Rhagfyr, 2:00yp – gan Alasdair Sill
Perfformiad CAP 17 Rhagfyr, 2:00yp – gan Erika James
Perfformiad CAP 28 Rhagfyr, 2:00yp – gan Erika James
Perfformiad BSL 28 Rhagfyr, 2:00yp – gan Sami Dunn
(Cefnogaeth BSL yn y Cyntedd cyn y perfformiad gan Claire Anderson (17 Rhag) a Miriam Grimshaw (28 Rhag).
Darganfodwch mwy am Clwb Byddar y Theatr

Cast
Tîm Creadigol