Sofie Hagen: Will I Ever Have Sex Again?

Comedi

Adolygiad

16 Gor 2024
7.30yh

Prisiau

£22.50

Gwybodaeth Bellach

  • Hyd: Tua 1 awr 50 munud yn cynnwys egwyl

Mae Sofie Hagen yn mynd ar daith gyda’i sioe stand-yp newydd sbon a’i llyfr newydd sbon.

Mae’r llyfr, ar werth ym mis Mai 2024, Will I Ever Have Sex Again? yn ymgais onest, doniol a diarfog sy’n archwilio’n tirlun rhywiol, trwy sgyrsiau ag arbenigwyr, therapyddion, gweithwyr rhyw, sêr porn, digrifwyr a ffigurau cyhoeddus. Pam na chawn y rhyw rydyn ni moyn? Ble mae’r rhyddid rhywiol sydd wedi’i addo i ni? Yn rhannol gofiant, yn rhannol archwiliad, mae Sofie yn ceisio datrys pam nad yw hi wedi cael rhyw ers dros 3,000 o ddiwrnodau – a pham mae’r teimlad rhwystredig hon mor berthnasol i gymaint o bobl.

Mae’r sioe newydd sbon hon o stand-yp a rhannu straeon, Banglord, yn ‘banger of a show’ (Entertainment Now) am rwystredigaeth rywiol a dominyddu’r byd.

Dewch i chwerthin ar y stand-yp, cymryd rhan yn y sesiwn holi ac ateb am Will I Ever Have Sex Again? a chael eich llyfr wedi’i lofnodi. Noson yn llawn o hwyl a sbri.

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am y seddi yn y Prif Dŷ yma.