Scene/Change

Theatr
Archive

Adolygiad

19 Ion 2024
7.30yh

Gwybodaeth Bellach

  • Gofod: Stiwdio
  • Hyd: Tua 75 munud (ddim yn cynnwys y sesiwn Ateb a Holi)
Gwybodaeth Pwysig

Mae’r darnau yma yn cynnwys iaith gref a themâu y gall rhai aelodau o’r gynulleidfa eu gweld yn peri gofid. Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma.

Ymunwch â ni yn y noson arbennig yma wrth i ni ddathlu’r gymuned creu theatr Dde Asiaidd yng Nghymru.

Rhaglen newydd ar ysgrifennu dramâu arloesol ar gyfer awduron o dreftadaeth Dde Asiaidd sy’n byw ac yn dod o Gymru yw Scene/Change.

Dros y deunaw mis diwethaf, mae grŵp o ddoniau newydd wedi cael eu profiadau cyntaf o ysgrifennu ar gyfer y theatr a bod mewn ystafelloedd ymarfer. A nawr, gyda chefnogaeth tîm creadigol llawrydd o’r un gymuned, bydd y sgriptiau 15 munud newydd cyffrous yma’n cael eu darlleniadau cyntaf yn dilyn ymarferion yn Stiwdio Sherman.

Yr awduron sy’n cael eu harddangos yw: Jannat Ahmed, Rha Arayal, Rithvik Andugula, Nia Gandhi ac Amir Khan. Mae’r awduron wedi derbyn cefnogaeth ddramayddol gan Tafsila Khan a Rheolwr Llenyddol y Sherman Davina Moss.

Y darnau yw:
2.9 Children gan Amir Khan
The Sky Is Ours gan Jannat Ahmed
End of My Rainbow gan Rithvik Andugula
Christmas (Baby Please Come Home) gan Nia Gandhi
The Village gan Rha Arayal

Bydd dehongliad Iaith Arwyddion Prydain o’r perfformiad gan Harjit Jagdev a fydd ar ochr dde’r awditoriwm.