Theatr Genedlaethol Cymru

Rhinoseros

Drama Perfformiadau yn Gymraeg
Archive

Adolygiad

24 - 27 Hyd 2023
Amseroedd amrywiol

Gwybodaeth Bellach

  • Iaith: Cymraeg
  • Gofod: Prif Theatr
  • Hyd: Tua 90 munud heb egwyl
Gwybodaeth Pwysig

Mae’r cynhyrchiad hon yn cynnwys iaith gref, alcoholiaeth, eithafiaeth, casineb, iselder, marwolaeth anifail a chyfeiriad at hunanladdiad. Mae’r cynhyrchiad hefyd yn cynnwys taniadau, niwl a goleuadau sy’n fflachio.

Mewn pentref tawel, mae rhinoseros yn taranu trwy’r strydoedd. Mae pawb wedi drysu’n llwyr. O ble ddaeth yr anifail arswydus?

Gan Eugène Ionesco
Addasiad Cymraeg gan Manon Steffan Ros

Ond, fesul un, caiff holl drigolion y pentref eu hudo gan y drefn newydd a’u trawsnewid i mewn i fwystfilod. Wrth i’r byd a’i bobl newid o’i gwmpas, mae’r arwr annhebygol Bérenger yn gafael yn dynn yn ei hunaniaeth ac yn gwrthod ildio – ond beth ydy’r gost o beidio cydymffurfio?

Yn llawn hiwmor annisgwyl a thensiwn hunllefus, mae Rhinoseros yn sylwebu ar gymdeithas, eithafiaeth a sut y gall casineb ledaenu fel feirws. Mor berthnasol nawr ag erioed, daw’r campwaith absẃrd hwn gan Eugène Ionesco i lwyfannau Cymru yn yr addasiad cyntaf i’r Gymraeg gan Manon Steffan Ros ac o dan gyfarwyddyd Steffan Donnelly.

Byddwch yn ofalus – mae’r rhinoserosod yn dod!

Dehongliad BSL gan Cathryn McShane

Bydd yna sgwrs ar ôl y sioe ar 25 Hydref.

Sibrwd
Bydd Sibrwd – yr ap mynediad iaith – ar gael i’ch tywys trwy’r ddrama, os ydych yn siarad Cymraeg yn rhugl neu ddim. Trwy gyfrwng llais yn y glust a thestun ar y sgrin, mae’r ap yn cyfleu yn Saesneg yr hyn sy’n cael ei ddweud ar y llwyfan ac mae ar gael i ddefnyddio ar eich ffonau personol.