Adolygiad
27 Tach 2023 - 6 Ion 2024Prisiau
£16 - £27 / Rhagolwg Talwch Beth Fynnwch £4 - £24 (27 Tach) / Dan 25 Hanner Pris, Ysgolion £8
Gwybodaeth Bellach
- Gofod: Y Brif Theatr
- Oedran: 7+
- Iaith: Saesneg
- Hyd: Tua 2 awr 20 munud yn cynnwys egwyl
Mae’r sioe yn cynnwys synau uchel, niwl a goleuadau sy’n fflachio. Am fwy o fanylion ar y themâu dan sylw yn Peter Pan, cliciwch yma.
- Sat 9 Dec - 2pm Audio Described
- Thu 28 Dec - 2pm Audio Described
- Sat 9 Dec - 7pm BSL interpreted
- Sat 9 Dec - 7pm Captioned
- Sat 16 Dec - 2pm Captioned
Fersiwn newydd gan Catherine Dyson
Gwefreiddiol. Twymgalon. Doniol.
Dewch ar antur gyda Wendy a hedfanwch i fyd rhyfeddol Peter Pan y Nadolig hwn.
Pan mae Wendy yn cwrdd â Peter Pan, mae hi’n dianc i fyd hudolus Neverland – byd â thylwyth teg, môr-forynion, a môr-leidr sydd â chrocodeil ar ei ôl.
Mae’n wlad lle rydych yn rhydd i chwarae, i gael anturiaethau, i hedfan ac i ganu. Ond mae hi hefyd yn darganfod grŵp newydd o blant sydd angen gofal – criw o fechgyn coll sy’n chwilio am fam.
Rhaid i Wendy benderfynu naill ai aros yn Neverland neu ddychwelyd adref i fywyd go iawn.
Yn seiliedig ar stori dragwyddol J.M. Barrie, mae drama hwyliog, doniol a theimladwy Catherine Dyson â chaneuon wedi’i gyfansoddi gan Gwyneth Herbert yn dilyn y stori trwy lygaid Wendy. Bydd yn cael ei pherfformio gan gast eithriadol o actor-gerddorion, gan gynnwys wynebau sy’n gyfarwydd i gynulleidfaoedd y Sherman. Mae’r addasiad newydd hon o glasur hoffus yn dathlu pŵer ein dychymyg i’n helpu i lywio anturiaethau bywyd. Mae’n meddwl am beth yw ystyr tyfu’n hŷn, a sut gallwn ni gyd dderbyn byw bywyd yn ein ffordd ein hun.
Mae Nadolig yn y Sherman bob amser yn cynnig adloniant eithriadol i’r teulu sydd ychydig yn wahanol. Wedi’i chreu yn arbennig ar gyfer oedrannau 7+, a gyda Lee Lyford fel cyfarwyddwr (The Wind in the Willows, Theatr y Sherman; A Christmas Carol, Bristol Old Vic), ni fydd Peter Pan yn eithriad.
Bydd y cyd-gynhyrchiad rhyfeddol yma gyda Theatr Iolo yn cynnwys golygfeydd hedfan gwefreiddiol wedi’u cynllunio gan NoFit State. Y Nadolig hwn, does dim terfyn ar le ewch chi yn eich dychymyg.
Dehongliad BSL gan Cathryn McShane
Sain Disgrifiad gan Michelle Perez
Cliciwch yma i wrando ar y Daflen Sain
Perfformiadau Hamddenol
Mewn Perfformiadau Hamddenol gallwch symud o gwmpas, siarad a lleisio yn ôl yr angen. Bydd goleuadau’r awditoriwm ymlaen ar lefel isel yn ystod y sioe i’ch galluogi i adael yn hawdd a bydd y drysau allanol i’r cyntedd yn aros ar agor trwy gydol y sioe. Os gwelwch fudd o wisgo amddiffynwyr clustiau maen nhw ar gael i’w benthyg am ddim drwy ofyn i’n tywyswyr yn yr awditoriwm a’r tîm yn y Swyddfa Docynnau. Bydd gofod i ymlacio gyda phabell dywyll a theganau synhwyraidd yn y cyntedd, wedi’i leoli yn y gornel wrth y ffenest, ar gael i chi ei ddefnyddio pryd bynnag y bydd angen
Pecyn Gweithgareddau
Rydym wedi creu pecyn gweithgareddau i gael pobl ifanc i ymgysylltu â’r cynhyrchiad, y cymeriadau, a’r themâu.
Mae pris popeth fel petai ar gynnydd ar hyn o bryd, ac rydyn ni eisiau sicrhau bod cost tocynnau o fewn cyrraedd cymaint o bobl â phosib:
- Gall bawb Dan 25 weld Peter Pan am hanner pris.
- Gall 2 Oedolyn a 2 Blentyn weld Peter Pan o lai na £50 wrth brynu 2 tocyn Band D am £16 yr un a 2 tocyn Band D am hanner pris i blant ac O Dan 25 am £8 yr un (yn amodol ar argaeledd).
- Rhannwch gost eich tocynnau ar gyfer y sioe yn ddau daliad hafal, gydag un taliad wrth archebu a’r llall wythnos cyn y perfformiad.
Ffoniwch 029 2064 6900 i ddysgu mwy (ar gael i archebion o £20 neu fwy).
“Peter Pan” is presented by arrangement with Great Ormond Street Hospital Children’s Charity and Concord Theatricals Ltd. on behalf of Samuel French Ltd. www.concordtheatricals.co.uk
Diolch i gefnogaeth gan the Garrick Charitable Trust rydym wedi cynnig lleoliad cynllunydd goleuo lefel mynediad ar y cynhyrchiad hwn i berson ifanc sydd â diddordeb mewn dilyn gyrfa mewn theatr dechnegol.
★★★★ – The Stage