Paned a Stori: The Wife of Cyncoed

Crëwyd yn y Sherman Theatr

Ysgrifennwyd gan Matt Hartley

Cyfarwyddwyd gan Hannah Noone

Archive

Adolygiad

26 Ion 2024
11yb

Gwybodaeth Bellach

  • Gofod: Y Brif Theatr
Gwybodaeth Pwysig

Mae The Wife of Cyncoed yn cynnwys golygfeydd o natur oedolion a rhywiol ac yn cynnwys iaith gref.

Sgwrsio, cwmni, coffi a theatr! Ymunwch â ni am gyfres nesaf Paned a Stori, cyfle i bobl hŷn ddod at ei gilydd yn rheolaidd.

Caiff ein cynulleidfa Paned a Stori weld rhagolwg ecsgliwsif o The Wife of Cyncoed gan Matt Hartley, mewn darlleniad wedi’i ymarfer cyn eu perfformiadau dangosiad rhyngwladol cyntaf ym mis Mawrth.

Byddwn yn ymgasglu yn y cyntedd am 10.30yb cyn i’r perfformiad ddechrau ac mae croeso i chi eistedd lle bynnag y dymunwch, felly gallwch chi gadw pellter cymdeithasol os hoffech.

Bydd tê a chacennau yn cael eu gweini yn y cyntedd wedyn a bydd y Caffi Bar ar agor i’r rhai sydd am brynu cinio.

Mae hwn yn berfformiad ymlaciol a Dementia Gyfeillgar.

Bydd dehongliad BSL ar gael gan Claire Anderson.

Bydd sgwrs ar ôl y sioe yn dilyn y perfformiad.

Mae tocynnau yn £5. Cysylltwch y Swyddfa Tocynnau ar 029 2064 6900, ebostiwch box.office@shermantheatre.co.uk neu cliciwch ar y ddolen uwchben i archebu tocynnau.

/

Mwy o wybodaeth am The Wife of Cyncoed:

Dewch i weld eich dinas a’ch strydoedd dan olau newydd gyda drama un fenyw hynod o ddifyrrus Matt Harley.

Mae bywyd Jayne wedi cyrraedd croesffordd. Wedi ei magu yn Nhredelerch, bu’n byw bywyd da yng Nghyncoed, ond ar ôl ysgariad chwerw symudodd i fyw ar ei phen ei hun yn Lakeside. Newydd ymddeol ac yn chwith gyda’i phlant, yn ddirybudd mae’n dod ar draws ffordd newydd o fyw. Ond a wneith hi ganiatáu ei hun i fyw ei bywyd newydd yn gyflawn?

Mae The Wife of Cyncoed yn stori am hunan ddarganfyddiad sy’n llawn bywyd a chwerthin. Erbyn diwedd stori Jayne, byddwch chi’n gwybod nad yw hi byth yn rhy hwyr am gyfle arall a darganfod pwy ydych chi mewn gwirionedd.

/

Cefnogir Paned a Stori gan Gwendoline and Margaret Davies Charity a Chyngor Celfyddydau Cymru.