Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru

Law yn Llaw

Dance Theatre
Archive

Adolygiad

26 Ebrill 2022
7:30yh

Gwybodaeth Bellach

  • Gofod: Y Brif Theatr

Tair dawns i’n hailgysylltu â’n theatrau a’n Gilydd

Ludo gan Caroline Finn.

Dawns ddoniol a thywyll ag egni uchel am bwysigrwydd chwarae. Fel oedolion, anaml y byddwn yn gwneud amser i chwarae, mae Ludo yn eich gwahodd i ailddarganfod llawenydd plentyndod a gwefr chwarae gemau. Newidiwch eich swydd arferol am y bocs gwisgoedd a dianc i fyd llawn meysydd chwarae rhyfeddol a dychymyg gwyllt, di-ben-draw.

Codi gan Anthony Matsena

Mae Codi yn codi o’r lludw i’n hysbrydoli ni yn 2022 gyda stori bwerus, llawn egni, am gryfder cymunedau’n dod ynghyd i fynd i’r afael â chaledi bywyd yn ystod cyfnodau heriol. Wedi’i adeiladu ar sylfeini straeon glofaol Cymru a adroddir drwy ddawns, cân, barddoniaeth a theatr, mae’r gynulleidfa wedi’i lapio mewn blanced o dywyllwch cyn cael ei harwain tuag at oleuni o obaith a dathlu.

A New Work gan Andrea Costanzo Martini

Dylech ddisgwyl dawns ddi-ofn a thrawiadol, yn llawn o hiwmor chwareus sy’n galw ein cyrff yn ôl i symud ac i fwynhau. Yn gweithio yn y DU am y tro cyntaf, bydd Martini yn ein hailgyflwyno i’n llwyfannau yr ydym wedi gweld eu heisiau’n fawr, gan gynnig y theatr fel lle i ymgasglu, mynegi ein hunain a dathlu Ein Gilydd, Law yn Llaw.

Bydd Disgrifiad Sain ar gael yn y perfformiad. Gwrandewch ar hysbyseb sain yma.
___

2 tocyn am bris 1 ar gael i chwaraewyr Loteri. Mwy o wybodaeth yma.
___

Gweithdai Grŵp
Mae gweithdai ar gyfer ysgolion, grwpiau a darpar ddawnswyr o bob oed ar gael gan Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru i gyd-fynd â’u Taith Law yn Llaw.

Os yw eich grŵp yn prynu 10 tocyn neu fwy ar gyfer perfformiad Law yn Llaw gallwch gael mynediad i weithdy dawns 90 munud am ddim gyda Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn eich ysgol neu leoliad arall ar amser sy’n gyfleus i chi. Os oes gennych ddiddordeb yn y cynnig hwn, cysylltwch â karen@ndcwales.co.uk

___

Sylwch nad yw’n ofynnol bellach i aelodau’r gynulleidfa ddangos pas Covid y GIG i gael mynediad i berfformiad.

Gwisgwch fwgwd trwy gydol eich ymweliad.
Rhaid i holl aelodau’r gynulleidfa ac ymwelwyr wisgo mwgwd (neu fygydau) trwy gydol eu hymweliad gan gynnwys yn ystod perfformiadau, oni bai eich bod wedi’ch eithrio (ag eithrio pan yn bwyta neu’n yfed yn yr awditoriwm). Nid oes disgwyl i gwsmeriaid y Bar Caffi wisgo mwgwd wrth eistedd wrth fwrdd. Darganfyddwch fwy am y camau rydym yn eu cymryd i gadw ein cynulleidfaoedd a’n staff yn ddiogel.