My Name Is Why: Lemn Sissay

Talks
Archive

Adolygiad

9 Mehefin 2022
8.00pm

Gwybodaeth Bellach

  • Gofod: Y Brif Theatr

Dyma stori bywyd Lemn: stori am gael ei esgeuluso ac am fod yn benderfynol, am drallod a gobaith, am greulondeb a buddugoliaeth.

Bydd yn darllen o’i gofiant poblogaidd, yn myfyrio ar ei blentyndod mewn gofal, hunan-fynegiant a Phrydeindod, ac wrth wneud hynny yn archwilio’r system ofal sefydliadol, hil, teulu ac ystyr cartref.

Yn delynegol a phwerus, fel y byddech chi’n ei ddisgwyl gan un o hoff feirdd y genedl, mae’r digwyddiad teimladwy, di-flewyn-ar-dafod hwn yn ganlyniad i fywyd a dreuliwyd yn holi cwestiynau, ac yn ddathliad o bŵer creadigrwydd i achub pobl.

Bydd sesiwn holi ac ateb i ddilyn.

Ysgrifennwyd a pherfformiwyd gan Lemn Sissay.
___

Sylwch nad yw’n ofynnol bellach i aelodau’r gynulleidfa ddangos pas Covid y GIG i gael mynediad i berfformiad.
Mae gwisgo mwgwd yn cael ei annog.
Darganfyddwch fwy am y camau rydym yn eu cymryd i gadw ein cynulleidfaoedd a’n staff yn ddiogel.