Fane Productions

Jay Rayner

Comedy
Archive

Adolygiad

17 Chwefror 2022
8.00yh

Gwybodaeth Bellach

  • Gofod: Y Brif Theatr
  • Iaith: Saesneg
Gwybodaeth Bwysig

Yn cynnwys iaith gref anaml a chyfeiriadau iechyd rhywiol.

My Last Supper: One Meal A Lifetime In The Making - wedi'i aildrefnu

Dychmygwch eich bod chi ar fin marw.
Ond un pryd sydd gennych chi’n weddill.
Beth yr ydych chi’n mynd i’w gael?

Dyma’r cwestiwn y mae’r adolygydd bwytai, beirniad MasterChef a’r awdur Jay Rayner wedi’i dderbyn amlaf gan gynulleidfaoedd ar draws y DU. Mae wedi digwydd mor aml ei fod wedi penderfynu ei bod hi’n hen bryd iddo archwilio’r cysyniad o’r swper olaf a pam ei fod yn ein chwilfrydu cymaint. Ai am ei fod yn cynnig y cyfle i ni adael i’n harchwaeth redeg reiat? Neu am ei fod yn ffordd barus i chi fedru adrodd stori eich bywyd eich hunan? Ac os felly, beth fyddai gwr fel Jay Rayner, sydd wedi treulio’r ddau ddegawd diwethaf yn gwneud ei fara menyn o giniawa mewn bwytai, yn dewis ei osod ar y fwydlen?

Mewn sioe newydd brygowthlyd, yn seiliedig ar ei lyfr newydd, mae Rayner yn archwilio ein cyfaredd â swperau olaf ac yn adrodd straeon y prydau gwych fyddai’n diweddu ar ei fwrdd: sut y cyflwynwyd wystrys iddo gan ei fam ymadawedig, sut y bu iddo bron a llosgi gwesty i’r llawr oherwydd ei gariad tuag at falwod mewn menyn garlleg byrlymus a’r ffyrdd dirifedi y mae’r mochyn dihafal wedi’i fwydo dros y blynyddoedd. Yn ogystal, bydd yn holi i’r gynulleidfa ddylunio eu pryd olaf eu hunain. Mae My Last Supper yn dilyn llwyddiant ei sioeau poblogaidd, My Dining Hell a The Ten Food Commandments, sydd wedi bod at ddant cynulleidfaoedd yn y DU, Awstralia, Seland Newydd a’r Unol Daleithiau.

My Last Supper gyda Jay Rayner. Sioe i fwrw’ch dannedd ynddi.

Yn anffodus, oherwydd fod y sefyllfa Cofid-19 yn parhau mae’r perfformiad o My Last Supper: One Meal a Lifetime in the Making with Jay Rayner ar Ddydd Mawrth Medi 14 2021 wedi’i aildrefnu i ddydd Iau Chwefror 17 2022 am 8.00yh. Bydd eich tocynnau’n cael eu symud i’r dyddiad newydd. Os ydych chi’n bwriadu mynychu ar y dyddiad newydd, nid oes angen i chi wneud unrhyw beth pellach. Os na allwch ddod i’r perfformiad ar y dyddiad newydd, e-bostiwch box.office@shermantheatre.co.uk a bydd aelod o’n tîm mewn cysylltiad â chi maes o law.
___

Rhaid i bob aelod o’r gynulleidfa sy’n 18 oed a hŷn gael a dangos Pas Covid y GIG i gael mynediad i berfformiad. Darganfyddwch fwy yma.

Gwisgwch fwgwd trwy gydol eich ymweliad.
Rhaid i holl aelodau’r gynulleidfa ac ymwelwyr wisgo mwgwd (neu fygydau) trwy gydol eu hymweliad gan gynnwys yn ystod perfformiadau, oni bai eich bod wedi’ch eithrio (ag eithrio pan yn bwyta neu’n yfed yn yr awditoriwm). Nid oes disgwyl i gwsmeriaid y Bar Caffi wisgo mwgwd wrth eistedd wrth fwrdd. Darganfyddwch fwy am y camau rydym yn eu cymryd i gadw ein cynulleidfaoedd a’n staff yn ddiogel.