Phil McIntyre Entertainments

Mark Thomas

Comedy
Archive

Adolygiad

15 Chwefror 2022
8.00pm

Gwybodaeth Bellach

  • Gofod: Y Brif Theatr
  • Iaith: Saesneg

50 Things About Us

Mae Mark yn defnyddio ei steil adnabyddus o chwedleua, stand-yp, tanseiliad a deunydd sydd wedi’i ymchwilio’n hynod, hynod o drylwyr i geisio canfod sut yn y byd y gwnaethon ni ddiweddu ynghanol y gachfa yma.

Mae 50 Things About Us yn sioe ynglyn â chaneuon, gongiau, ysbail, traddodiad, wigiau, dwyn, cerfluniau, celf a hunaniaeth. Rhyw fath o bennod cenedlaethol doniol o Who Do You Think You Are?

Dywed Mark, “’Drychwch, ‘dwi wedi bod yn gwneud hyn am 34 o flynyddoedd. ‘Dwi wedi mynd o stand-yp i theatr a hanner ffordd yn fy ôl eto. Mae’n sioe arall ychydig yn rhyfedd, rhyw fath o Sianel Hanes, hefo tamaid o regi, a gyda ‘chydig o chwerthin a drygioni creadigol. Os yr ydych chi wedi gweld fy sioeau i o’r blaen, bydd hon yn sioe gyffelyb i 100 Acts of Minor Dissent.”

★★★★★ “A master of this type of entertainment…” THE ARTS DESK
★★★★ “This a show that comes from the guts” THE TELEGRAPH
★★★★ “Righteous, moving and funny… Mark Thomas should be on prescription” THE HERALD
___

Rhaid i bob aelod o’r gynulleidfa sy’n 18 oed a hŷn gael a dangos Pas Covid y GIG i gael mynediad i berfformiad. Darganfyddwch fwy yma.

Gwisgwch fwgwd trwy gydol eich ymweliad.
Rhaid i holl aelodau’r gynulleidfa ac ymwelwyr wisgo mwgwd (neu fygydau) trwy gydol eu hymweliad gan gynnwys yn ystod perfformiadau, oni bai eich bod wedi’ch eithrio (ag eithrio pan yn bwyta neu’n yfed yn yr awditoriwm). Nid oes disgwyl i gwsmeriaid y Bar Caffi wisgo mwgwd wrth eistedd wrth fwrdd. Darganfyddwch fwy am y camau rydym yn eu cymryd i gadw ein cynulleidfaoedd a’n staff yn ddiogel.