Made in (India) Britain

Theatr
Archive

Adolygiad

25 - 26 Ebr
8:00yh

Gwybodaeth Bellach

  • Gofod: Stiwdio
  • Hyd: 60 munud
  • Iaith: Bydd pob perfformiad yn BSL, gyda Saesneg llafar a chapsiynau caeedig.
Gwybodaeth Pwysig

14+
Mae’r pefformiad hyn yn cynnwys slurs hiliol.

Stori arobryn am dyfu i fyny yn cael ei pherfformio mewn BSL.

Mae Roo yn fachgen Pwnjabi byddar o Birmingham, sy’n byw mewn byd na chafodd ei greu ar ei gyfer. Trwy boen a chwerthin, mae Roo yn sôn am effaith ableddiaeth a hiliaeth ar ei blentyndod a’i fywyd fel oedolyn, gan ei arwain i wynebu un cwestiwn allweddol: “Ble ydw i’n perthyn?”

Dyma stori am dyfu i fyny a darganfod eich cymuned a’r daith sy’n dilyn hyn. Dewch i ymgolli ym myd Roo wrth iddo ffeindio’i ffordd ar draws ffiniau a mynd i’r afael â’i ymdeimlad o hunaniaeth.

Bydd pob perfformiad yn BSL, gyda Saesneg llafar a chapsiynau caeedig.

Enillydd Gwobr Spirit of the Fringe Mervyn Stutter 2022

Enillydd Gwobr Rhagoriaeth Byddar, The Neurodiverse Review Awards

Cyfarwyddiadau ar gyfer cyrchu Capsiynau 
1. Lawrlwythwch yr ap am ddim
Ar iPhone / iPad – lawrlwythwch o’r App Store
Ar Android – lawrlwythwch Google Play Store

2. Cysylltwch â’r rhwydwaith

• Yn Settings, gosodwch eich dyfais i’r modd Airplane er mwyn osgoi ymyriadau
• Ail-alluogwch WiFi a dewiswch y rhwydwaith Difference Engine
(ar gael 20 munud cyn i’r digwyddiad cychwyn – os ddim, siaradwch gyda aelod o staff)
• Cyfrinair yw: engine123 (os mae hwn yn newid, gwiriwch yr app Guide)

3. Agorwch yr Ap a dewisiwch Captions

Os mae gennych dyfais gwahanol, neu fersiwn hen o iOD neu Android
• Cysylltwch i’r rhydwaith WiFi Difference Engine, fel uchod
• Yn eich porwr, teipiwch 192.168.0.105 i mewn i’r bar cyfeiriad – gwasgwch Enter
• Dewiswch Captions
Efallai byddwch angen addasu eich disgleirdeb i lawr –  bydd yn arbed bywyd batri!
Am mwy o wybodaeth ar y Difference Engine cewch i www.talkingbirds.co.uk/DE