La Voix

Comedy
Archive

Adolygiad

19 Chwe 2022
7.30pm

Gwybodaeth Bellach

  • :
  • :

Mae wythfed rhyfeddod y byd, y difa diamanté ei hun, La Voix, yn troedio ei ffordd yn osgeiddig i Theatr y Sherman gyda’i sioe newydd sbon fel Iarlles Comedi!

Dewch i fwynhau sioe sy’n gorlenwi â chomedi, lleisiau anhygoel, dynwarediadau difaidd rhyfeddol a sacheidiau o egni gyda La Voix a’i cherddorion talentog mewn noson fythgofiadwy yn llawn ffraethineb sgleiniog, tiwns gafaelgar a mwy fyth o ffrogiau hyfryd. Mae La Voix yn dod â noson unigryw o adloniant i ffans a newydd-ddyfodiaid yng nghwmni cymeriad gwirioneddol chwedlonol sy’n siŵr o godi cynulleidfaoedd ar eu traed gyda cherddoriaeth a chwerthin. Nid yw sioeau La Voix yn rhai i’w methu!
___
Sylwch nad yw’n ofynnol bellach i aelodau’r gynulleidfa ddangos pas Covid y GIG i gael mynediad i berfformiad.

Gwisgwch fwgwd trwy gydol eich ymweliad.
Rhaid i holl aelodau’r gynulleidfa ac ymwelwyr wisgo mwgwd (neu fygydau) trwy gydol eu hymweliad gan gynnwys yn ystod perfformiadau, oni bai eich bod wedi’ch eithrio (ag eithrio pan yn bwyta neu’n yfed yn yr awditoriwm). Nid oes disgwyl i gwsmeriaid y Bar Caffi wisgo mwgwd wrth eistedd wrth fwrdd. Darganfyddwch fwy am y camau rydym yn eu cymryd i gadw ein cynulleidfaoedd a’n staff yn ddiogel.