Jinkx Monsoon & Major Scales: Together Again, Again!

Comedy
Archive

Adolygiad

10 Jun 22
8.00yh

Gwybodaeth Bellach

  • Iaith: Saesneg
  • Gofod: Y Brif Theatr
Gwybodaeth Pwysig

Sylwch fod y sioe yn cynnwys rhai cyfeiriadau rhywiol ysgafn ac iaith gref.

Dyma’r flwyddyn 2065, ac mae Jinkx a Major wedi goroesi rhywsut…

Mae Jinkx yn yfed. Major yn moeli. Mae’r byd yn cwympo’n ddarnau. Ac ymlusgiaid sy’n rheoli’r blaned. Mewn geiriau eraill: nid oes llawer wedi newid.

Ar ôl seibiant o bedwar deg pump o flynyddoedd, mae’r ddau ohonyn nhw’n glynu at yr ychydig enwogrwydd sy’n dal i fod ar ôl. Mae ganddo ef y caneuon; mae ganddi hi’r llais. Mae nhw’n dal i sefyll, ac yn parhau i ddal dig.

Mae Jinkx Monsoon, enillydd RuPaul’s Drag Race, a’r wyrth gerddorol Major Scales yn dychwelyd i’r DU gyda’u sioe fwyaf beiddgar, pryfoclyd a chywilyddus hyd yn hyn.

Ar ôl yr holl flynyddoedd ar wahân, o’r diwedd mae nhw gyda’i gilydd unwaith eto!

Cyfarch a Chwrdd
Bydd y Cyfarch a Chwrdd yn digwydd ar ôl y sioe. Unwaith y daw’r sioe i ben, ewch i’r ciw Cyfarch a Chwrdd yn y Cyntedd. Bydd arwyddion yn dangos le mae’r ciw.

O tua 9.40yh, bydd gwesteion Cwrdd a Chyfarch yn cael eu haildderbyn i’r awditoriwm ar gyfer y sesiwn. Er mwyn diogelu’r perfformwyr, byddwn yn gweithredu pellter cymdeithasol.
___

Sylwch nad yw’n ofynnol bellach i aelodau’r gynulleidfa ddangos pas Covid y GIG i gael mynediad i berfformiad.
Mae gwisgo mwgwd yn cael ei annog.
Darganfyddwch fwy am y camau rydym yn eu cymryd i gadw ein cynulleidfaoedd a’n staff yn ddiogel.