Gŵyl Theatr Ieuenctid

Sherman yn 50 Theatr
Archive

Adolygiad

4 - 6 Ebr
Amrywiaeth

Pŵer. Egni. Sŵn.

Ym mis Ebrill, fel rhan o’n dathliadau penblwydd yn hanner cant, mae’r Sherman yn croesawu rhwydwaith bywiog o gwmnïau Theatr Ieuenctid o bob rhan o Gaerdydd a De Cymru i gymryd rhan yn ein Gŵyl Theatr Ieuenctid.

Yn ymuno â nhw bydd Theatr Ieuenctid y Sherman, sy’n ail-lwyfannu eu perfformiad o Ghost Cities gan Gary Owen gyda deunydd newydd sbon wedi’i ysgrifennu gan gyfranogwyr ein cwrs Cyflwyniad i Ysgrifennu Dramâu.

Wrth i’r bobl ifanc feddiannu’r adeilad, gyda pherfformiadau ac amserlen brysur o weithdai, bydd y Sherman yn dod yn ganolfan i greadigrwydd.
Ymunwch â ni am un perfformiad, neu prynwch docyn er mwyn gweld cymaint o berfformiadau ag y dymunwch.

A Round of Applause gan The Applause Group
4 Ebrill, 5.00yh
Dathliad o Theatr Gerddorol â pherfformwyd gan The Applause Group.

Model Behaviour gan Everyman Youth Theatre
5 Ebrill, 11.00yb
Taith gyflym a doniol wrth i wleidyddiaeth bersonol iard yr ysgol gael llwyfan byd eang.

Reflections gan Dimensions Performance Academy
5 Ebrill, 2.30yp

Mae’r deyrnas mewn anhrefn llwyr, gyda streiciau a phrotestiadau ledled y wlad. A fydd unrhyw un yn hapus byth eto?

Snow gan Kinetic School of Performing Arts
5 Ebrill, 5.00yh
Profwch fyd y Frenhines Eira – ond nid fel yr ydych chi’n ei ddisgwyl.

Why am i here? gan Cwmni Y Pant
6 Ebrill, 11.00yb

Darn dyfeisiedig sy’n archwilio bywydau pobl sy’n wynebu materion fel tlodi, alcoholiaeth ac iselder.

Love, Lies and Taxidermy gan Coleg Penybont
6 Ebrill, 2.30yp

Comedi dywyll. Stori garu anarferol. Cipolwg ar feddwl yr arddegwyr.

Ghost Cities gan Theatr Ieuenctid y Sherman
6 Ebrill, 5.00yh

Dinas amhoblog, ystafell wely wag sy’n perthyn i berson ifanc, maes parcio wedi’i lenwi â cheir sydd wedi’u gorchuddio â llwch… lle perffaith i ysbrydion.