Theatr Ieuenctid y Sherman

Ghost Cities

Sherman yn 50 Theatr
Archive

Adolygiad

6 Ebr
5.00yh

Gwybodaeth Bellach

  • Gofod: Prif Dŷ
  • Hyd: Tua 1 awr a 30 munud
Gwybodaeth Pwysig

Mae Ghost Cities yn ymdrin â themâu aeddfed ac yn cynnwys iaith gref, yn ogystal a golygfeydd a chyfeiriadau a allai beri gofid i rai aelodau o’r gynulleidfa. Am mwy o wybodaeth, cliciwch yma. 

Cyfoes. Ffrwydrol. Caerdydd.

Yn cael ei gynnwys yn Gŵyl Theatr Ieuenctid, fel rhan o’n Dathliad Pen-blwydd arbennig yn 50.

Dinas amhoblog, ystafell wely wag sy’n perthyn i berson ifanc, maes parcio wedi’i lenwi â cheir sydd wedi’u gorchuddio â llwch… lle perffaith i ysbrydion.

Beth allwch chi ei ddisgwyl gan Ghost Cities?

Bydd Theatr Ieuenctid y Sherman yn byrlymu ar lwyfan y prif dŷ gyda Ghost Cities, drama am Gymru, wedi’i gosod yng Nghaerdydd. Gydag amnaid i’r gorffennol, a’r dyfodol, mae wedi’i wreiddio’n gadarn yn y presennol wrth i bobl ifanc y Sherman rannu’r hyn y mae bywyd yn ein dinas, a’r byd, yn ei olygu iddyn nhw heddiw.

Popeth sydd angen i chi ei wybod am Ghost Cities:

Golwg newydd ar ddrama Gary Owen, Ghost City
Perfformiwyd Ghost City gan Gary Owen am y tro cyntaf yng Nghaerdydd yn 2004 – cipolwg craff, a strydgyfarwydd ar fywyd dinesig oedd yn ymestyn dros bedair awr ar hugain a phedwar ar hugain o fywydau.

Archwiliad o’r hyn y mae Caerdydd yn ei olygu i’w phobl ifanc
Mae Ghost Cities yn ymgorffori deunydd newydd sbon a ysgrifennwyd gan ein cyfranogwyr Cyflwyniad i Ysgrifennu Drama (rhwng 15 a 18 oed), sy’n archwilio beth sy’n bwysig i bobl ifanc nawr.

Bydd ein Theatr Ieuenctid yn camu i lwyfan y Prif Dŷ
Bydd Ghost Cities yn cael ei berfformio gan gyfranogwyr ein Theatr Ieuenctid sydd rhwng 15 a 18 oed.

Gan gynnwys deunydd newydd sbon a ysgrifennwyd gan ein cyfranogwyr Cyflwyniad i Ysgrifennu Drama Mared Seeley, Loki Skyrme-Croft, Lauren Hindmarsh, Emma Phelps a Isla Munnik.

Cynllunydd Ruby Brown (gyda chefnogaeth Ymddiriedolaeth Celfyddydau Fenton)
Cyfarwyddydd Cynorthwyol Beca Llwyd Roberts (gyda chefnogaeth Ymddiriedolaeth Celfyddydau Fenton)