Flo & Joan: Sweet Release

Comedy
Archive

Adolygiad

16 Chwefror 2022
8.00pm

Gwybodaeth Bellach

  • Ofod: Y Brif Theatr
  • Iaith: Saesneg

Mae’r ddeuawd gomedi gerddorol (a’r chwiorydd) Flo & Joan, sydd wedi ennill sawl gwobr yn y gorffennol, yn camu i’r gad, wedi’u harfogi â phiano ac offerynnau taro i ddod â sioe newydd sbon o ganeuon a chomedi atoch chi.

Mae eu harddull unigryw a ffraeth wedi’u harwain ledled y byd gyda nifer o deithiau ac ymddangosiadau yng Ngŵyl Just For Laughs Montreal a Gŵyl Gomedi Ryngwladol Melbourne. Nawr mae nhw’n ôl gyda’u taith genedlaethol fwyaf erioed o amgylch y DU, yn trafod nifer o bynciau cyfredol: gor-feddwl, cariadon estron a’r ffrinj.
Maent wedi ymddangos ar Live at the Apollo (BBC2), The Royal Variety Performance (ITV), The Russell Howard Hour (Sky) a Jonathan Ross’ Comedy Club (ITV). Mae eu caneuon ar-lein wedi’u gwylio dros 50 miliwn o weithiau, ac maent hefyd i’w gweld yn eich hunllefau personol, yn ogystal ag yn ‘Alive on Stage’, eu rhaglen arbennig eu hunain sydd ar gael ledled y byd ar Amazon Prime.

“Musical comedy hasn’t been in such safe hands for years” The List

“It’s the harmonies of Frankie Valli with the sensibilities of Frankie Boyle” Chortle

★ ★ ★ ★ The Telegraph
★ ★ ★ ★ The Guardian
★ ★ ★ ★ Sunday Times
___

Rhaid i bob aelod o’r gynulleidfa sy’n 18 oed a hŷn gael a dangos Pas Covid y GIG i gael mynediad i berfformiad. Darganfyddwch fwy yma.

Gwisgwch fwgwd trwy gydol eich ymweliad.
Rhaid i holl aelodau’r gynulleidfa ac ymwelwyr wisgo mwgwd (neu fygydau) trwy gydol eu hymweliad gan gynnwys yn ystod perfformiadau, oni bai eich bod wedi’ch eithrio (ag eithrio pan yn bwyta neu’n yfed yn yr awditoriwm). Nid oes disgwyl i gwsmeriaid y Bar Caffi wisgo mwgwd wrth eistedd wrth fwrdd. Darganfyddwch fwy am y camau rydym yn eu cymryd i gadw ein cynulleidfaoedd a’n staff yn ddiogel.