Theatr Clwyd

Fleabag

Comedi Perfformiadau yn Gymraeg Theatr
Archive

Adolygiad

5 - 8 Med 2023
7.30yh

Gwybodaeth Bellach

  • Iaith: Cymraeg
  • Gofod: Prif Theatr
  • Hyd: Tua 1 awr 24 munud heb egwyl
Gwybodaeth Pwysig

Yn cynnwys rhywfaint o iaith gref a chyfeiriadau rhywiol. Gyda chyfeiriadau at farwolaeth a hunanladdiad.

Gan Phoebe Waller-Bridge. Addasiad Cymraeg gan Branwen Davies.

Addasiad Cymraeg newydd o’r sioe boblogaidd!

Drama gomedi arobryn Phoebe Waller-Bridge, Fleabag, wedi’i haddasu i’r Gymraeg gan yr awdur o fri, Branwen Davies.

Mae’r sioe fudr, ddoniol, heb ffilter yma’n dilyn siwrnai ddi-drefn Cymraes tuag at fod â dim i’w golli.

Efallai ei bod hi’n ymddangos yn or-rywiol, yn emosiynol amrwd ac yn hunanobsesiynol, ond dim ond y dechrau ydi hynny. Gyda pherthnasoedd dan straen a chaffi mewn trafferthion, mae hi ar y dibyn heb unrhyw le i fynd yn ôl pob tebyg.

Ysgrifennwyd a pherfformiwyd Fleabag yn wreiddiol gan Phoebe Waller-Bridge yng Ngŵyl Fringe Caeredin. Wedyn addaswyd y sioe yn gyfres deledu ar y BBC a enillodd wobrau BAFTA, Emmy a Golden Globe.

Mae’r addasiad Cymraeg yma gan Branwen Davies yn cael ei berfformio gan yr actores lwyddiannus o Gymru, Leah Gaffey.

Cyfarwyddwr: Sara Lloyd
Awdur: Phoebe Waller-Bridge

Capsiynau
Bydd capsiynau Cymraeg a Saesneg ar gael ar gyfer y perfformiadau ar Ddydd Mawrth 5 a Dydd Iau 7 Medi.