Frân Wen

Deian a Loli

Perfformiadau yn Gymraeg Teulu
Archive

Adolygiad

5 - 8 Meh 2024
Amrywiaeth o amseroedd

Gwybodaeth Bellach

  • Gofod: Y Brif Theatr
  • Iaith: Cymraeg
  • Oedrannau: 5 - 11
  • Hyd: 1 awr heb egwyl

Y RIBIDIREW OLAF

Dewch i brofi sioe theatrig gyntaf Deian a Loli wrth i’r efeilliaid direidus deithio i ben draw dychymyg a thu hwnt.

Da ni gyd yn gorfod tyfu i fyny rhywbryd. Neu ydan ni?

Mae hi’n ddiwrnod cyntaf Deian a Loli yn yr ysgol fawr!

Mae Deian wedi cyffroi’n lân ac ar ei draed ers cyn cŵn Caer – ond dydi Loli ddim isio mynd. Ar ben bob dim, mae goriadau’r car ar goll ac mae Loli’n mynnu mai eu ffrind dychmygol sydd wedi eu dwyn nhw – er fod Mam, Dad a Deian yn dadlau nad ydi ffrindiau dychmygol yn bod.

Mae Deian yn sylweddoli nad oes ganddo fawr o ddewis ond ymuno efo Loli i ddweud y gair hud, a rhewi eu rhieni – gan fynd ar drywydd y goriadau coll ar antur fwyaf eu bywydau.

A fyddan nhw’n llwyddo i ddod o hyd i’w ffrind dychmygol cyn iddo fo ddiflannu am byth? A oes peryg iddyn nhw golli eu pwerau hudol wrth dyfu i fyny?

Dehongliad BSL gan Cathryn McShane ar Ddydd Gwener 7 Meh am 10.30yb a 5yh.