Comedi newydd gan Shôn Dale-Jones
Stori wir wedi’i gwneud fyny yn gyfan gwbl
Mae mam Shôn yn 83 mlwydd oed ac yn aros am ganlyniadau profion nôl o’r ysbyty. Mae Shôn yn dychwelyd adref i Ynys Môn i ymweld â hi. I leddfu rhywfaint o bwysau, mae hi’n gofyn iddo dorri wy ar ei phen. O fewn eiliad, mae’r cyfan ar chwâl. Mae troliau o’r we yn ymddangos o’u blaenau ac yn rhoi gorchmynion i Shôn i beidio cam-drin ei fam a gadael yr ynys…
Dyma stori am gariad a chasineb sy’n dathlu sut mae chwilio am gysylltiad yn curo datgysylltiad. Mae CRACKING yn stori gomig, galonogol a dyrchafol am garu yn wyneb casineb.