Cyd-gynhyrchiad rhwng Theatr y Sherman a Tilt

Balloon Girl

Crëwyd yn y Sherman Crёwyd gan y Sherman Teulu Theatr

Ysgrifennwyd gan Hannah McPake

Cyfarwyddwyd gan Hannah McPake

Hygyrch

  • Wed 14 Oct - 7:00pm BSL interpreted
  • Fri 23 Oct - 6:30pm BSL interpreted
  • Fri 16 Oct - 6:30pm Audio Described
  • Thu 22 Oct - 7:00pm Captioned

Adolygiad

9 - 24 Hyd 2026
Amrywiaeth

Prisiau

O £18. Gostyngiadau £2 i ffwrdd. Plant a Dan 25 Hanner Pris.

Gwybodaeth Bellach

  • Oedran: 8+
  • Iaith: Saesneg
  • Gofod: Y Brif Theatr
Gwybodaeth Pwysig

Yn addas i bawb 8+ oed
Am rybuddion cynnwys, cliciwch yma.

Mae’n bryd edrych i fyny!

Ewch ar daith ryfeddol gyda Balloon Girl trwy 2000 o flynyddoedd o hanes Cymru.

Mewn antur llawn hwyl ddi-ben-draw a grëwyd gan Hannah McPake (Tales of the Brothers Grimm, Alice: Return to Wonderland), cewch gyfarfod goresgynwyr Rhufeinig, ysbeilwyr Llychlynnaidd, trigolion Caerdydd yn yr Oes Fictoraidd a llawer mwy.

Wedi’i ysbrydoli gan stori wir a rhyfeddol am ferch balŵn Caerdydd, Louisa Maud Evans, mae ein cynhyrchiad yn anrhydeddu ei hanes ac yn adrodd stori ddisglair, llawn bywyd a chwerthin. Mae’r sioe newydd gyffrous hon yn dathlu dewrder a grym chwilfrydedd, ac yn ein gwahodd ni i gyd i freuddwydio’n fwy, mentro, a chroesawu’r elfen o antur sydd ym mhob un ohonom.

Paratowch am daith o ryfeddodau a llawenydd gyda Balloon Girl – y sioe berffaith i danio chwilfrydedd yr ifanc a dychymyg yr hŷn.

The Story:

Tech-billionaire Carol Gaudron is about to launch the first civilian crewed mission to Mars.

But is it as safe as Carol is suggesting?

On the eve of the launch, a time-traveling Victorian teenage ghost turns up in a hot air balloon and takes Carol on a thrilling ride through 2000 years of Welsh history; from the Romans to the Vikings to the Victorians and beyond.

Will Carol see the error of her ways and cancel the launch? Or is history about to repeat itself?

Pwy fydd yn mwynhau Balloon Girl?

Mae Balloon Girl wedi cael ei greu yn arbennig i bawb sy’n 8 oed ac yn hŷn. Mae Hannah McPake yn adnabyddus am greu sioeau theatr perthnasol, chwareus a dychmygol, sy’n rhyfeddu plant ac oedolion fel ei gilydd. Gyda chyfuniad trawiadol o ffuglen wyddonol, ffantasi, hiwmor a hanes; mae Balloon Girl wirioneddol yn cynnig rhywbeth i bawb.

Tri rheswm dros weld Balloon Girl:

  1. Mae Balloon Girl yn addo adloniant twymgalon, gobeithiol, sy’n llawn calon i bawb 8 oed ac yn hŷn.
  2. Gan ddefnyddio setiau, gwisgoedd a phypedwaith anhygoel, mae cynhyrchiad Hannah yn wirioneddol ysblennydd. Dyma theatr yn ei holl liwiau.
  3. Mae Balloon Girl yn dathlu chwilfrydedd ac yn herio pawb i edrych i fyny, tra hefyd â’i wreiddiau yn hanes de Cymru. Mae’n ymwneud â’r byd o’n cwmpas. Mae Balloon Girl yn gofyn cwestiynau mawr ynglŷn â’n byd ni heddiw, gan gynnwys beth yw cost arloesi?

Cefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

 

Perfformiadau Hygyrch:

Dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain: Caroline Richardson

Disgrifiwr Sain: Michelle Perez

Sgrindeitlo Byw: Erika James

 

Stori wir ferch y balŵn ac Arddangosfa Fawr Caerdydd

130 mlynedd yn ôl, cynhaliwyd Arddangosfa Celfyddydau Cain, Diwydiannol a Morwrol 1896 yng Nghaerdydd.

Roedd yr Arddangosfa Fawr yn gamp anferth, ac mae’n parhau i fod yn un o’r digwyddiadau mwyaf yng Nghymru erioed. Dros gyfnod o chwe mis, daeth miliwn o ymwelwyr i’r ardal a elwir bellach yn Barc Cathays.

Fel rhan o’r arddangosfa, cynhaliwyd esgyniad balŵn dan arweiniad dau awyrennwr o Ffrainc, Mademoiselle Albertine ac Auguste Eugène Gaudron. Daeth y digwyddiad yn destun penawdau ledled y byd, gan arwain yn y pen draw at newidiadau i ddeddfau’r cyfnod.

Darllenwch fwy am yr arddangosfa a’r trychineb a ddilynodd yr esgyniad balŵn, a ysbrydolodd Balloon Girl yma.