Arddangosfa o Ysgrifennu Newydd 1: Grwpiau Awduron y Sherman

Crëwyd yn y Sherman Theatr
Archive

Adolygiad

3 Chwe
6.00yh

Gwybodaeth Bellach

  • Gofod: Stiwdio
  • Iaith: Cymraeg a Saesneg (dim uwchdeitlau a cyfieithiadau ar gael)
  • Hyd: 75 munud i pob arddangosfa
Gwybodaeth Pwysig

Bydd y dramau hyn yn cynnwys iaith gref a themau gall rhai aelodau o’r gynulleidfa i weld yn drist. Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma. 

Profwch ysgrifennu beiddgar gan leisiau newydd cyffrous.

Ein Arddangosfa o Ysgrifennu Newydd yw penllanw’r gwaith y mae ein grwpiau awduron wedi ei gyflawni dros y flwyddyn ddiwethaf.

Bu 16 o awduron yn cymryd rhan, gan weithio yn y Gymraeg (Cylch Sgwennu’r Sherman) ac yn Saesneg (Sherman Writers Group). Mae’r awduron a ddewiswyd yn hanu o bob rhan o’r wlad, o Ogledd i Ganolbarth Cymru, ac i’r De, ac yn cynrychioli ystod amrywiol o brofiadau bywyd.

Dewch i weld gwaith ysgrifennu sy’n torri tir newydd yn y Stiwdio fis Chwefror.

Arddangosfa 1 (6:00yh)
Last Flight gan Tess Berry-Hart
99er gan Ceri Ashe
Clwb Malu C*chu gan Rhiannon Williams
Transnewid gan Kallum Weyman
The Last Drop gan Dan Tyte
Sian De Bergerac gan Emma Cooney

Chili (cig eidion neu fegan) ar gael i archebu ymlaen llaw am £7.50 pan yn archebu eich tocynnau. Bydd hyn yn cael ei weini o 7.15yh-8.15yh rhwng y ddau arddangosfa.Chill gyda nachos a chaws:

Chili cig eidion
neu
Chili Fegan (gyda chaws fegan)

£7.50

Bydd y chili yn cael ei weini rhwng 7.15yh – 8.15yh. Os hoffwch cael eich chili cyn yr arddangosfa cyntaf (6.00yh) os gwelwch yn dda cysylltwch y Swyddfa Docynnau i ddymuno hyn. I cael eich chili os gwelwch yn dda cyflwynwch eich derbynneb yn y bar.

Bydd y chili hefyd ar gael i archebu ar y diwrnod.

Nôl ym mis Tachwedd 2021 cyhoeddodd Theatr y Sherman eu Cylch Sgwennu a’r Writers Group, a ddaeth ynghyd drwy’r Adran Lenyddol; Branwen Davies ac Alice Eklund. Bu’r 16 awdur yn rhan o raglen ddatblygu naw mis o hyd yn y Gymraeg a’r Saesneg. Fe wnaeth y fenter bwysig hon feithrin a chefnogi’r awduron wrth iddynt gyflwyno syniadau cychwynnol ar gyfer drama a’u datblygu yn ddrafft terfynol. Dros y naw mis, bu’r awduron yn gweithio’n agos gyda’r Adran Lenyddol, y Cyfarwyddwr Artistig Joe Murphy, yn ogystal ag awduron gwadd a gynhaliodd sesiynau wyneb yn wyneb ac ar-lein.

Mae’r awduron a ddewiswyd yn hanu o bob rhan o’r wlad o’r Gogledd i Ganolbarth Cymru, ac i’r De ac yn cynrychioli ystod amrywiol o brofiadau bywyd. Yr awduron fu’n rhan o’r Cylch Sgwennu yw: Ceri Ashe, Bethan Davies, Mari Izzard, Gareth Evans-Jones, Bethan Jones, Rhiannon Lloyd Williams, Wyn Mason a Kallum Weyman. Y rhai fu’n rhan o’r Writers Group oedd: Tess Berry-Hart, Emma Cooney, Laura Dalgleish, Ciaran Fitzgerald, Paisley Jackson, Natasha Kaeda, Tom Price a Dan Tyte.

Mae’r fenter hon wedi dod â ni at ddigwyddiad arbennig i gyflwyno detholiadau o’r dramâu a grëwyd gan yr awduron hynny. Yn ystod y noson byddwch yn clywed 12 o’r dramâu a ddatblygwyd gennym yn ystod y prosiect. Bydd cymysgedd o ddarnau Cymraeg, Saesneg a dwyieithog. Bydd y perfformiadau yn ddarlleniadau sgript mewn llaw a gyfarwyddwyd gan Alice Eklund a Matthew Holmquist (Red Oak Theatre). Red Oak Theatre yw Cwmni Preswyl Theatr y Sherman a gallwch ddarllen isod am y gosodiadau a fydd yn cael eu harddangos yn y Sherman drwy’r cyfnod.

Mewn partneriaeth ag Arddangosfa Cylch Sgwennu Theatr y Sherman, mae Red Oak Theatre a CBCDC yn cyflwyno cyfres o osodiadau gan y dylunydd Llew Morgan. Gwnaed y tri gosodiad mewn ymateb i’r dramâu a byddant yn cael eu cyflwyno fel rhan o’r sioe yng Nghyntedd y Sherman yn y cyfnod cyn y digwyddiad ac ar ei ôl. Mae pob un o’r gosodiadau yn rhyngweithiol ac yn rhoi cyfle i gynulleidfaoedd wrando ar ddetholiadau gan yr awduron, gan annog y cyhoedd i gamu’n llythrennol i fyd y dramâu ac ymgolli ynddynt.