Mewn cydweithrediad â Clean Break, cyflwyna Papertrail drama rymus Siân Owen, A Visit.
Mae’n ddrama am drosedd, cyfiawnder a gofal, sy’n holi cwestiynau am bwy sydd i ofalu am y plant pan gaiff mam ei charcharu.
Mae Angharad, merch 15 mlwydd oed, yn ymweld â’i mam, Ffion, mewn carchardy sy’n bell iawn o’u cartref yn Aberdâr. Mae ei modryb, Carys, wedi bod yn gwneud ei gorau i ofalu amdani, ond mae gofalu ar ôl plentyn yn ei harddegau yn medru bod yn heriol, a ‘dyw Carys erioed wedi bwriadu bod yn fam. Pwy felly sydd i ofalu am Angharad?
Wedi ei ysbrydoli gan straeon go iawn menywod a phobol ifanc y buon nhw’n cydweithio gyda, mae Papertrail a Siân Owen wedi creu darn gafaelgar o theatr.
Mae pob perfformiad yn cynnwys capsiynau integredig a dau Dehonglwyr Perfformiad Iaith Arwyddion Prydain: Claire Anderson a Cathryn McShane.
- All shows – BSL Claire Anderson a Cathryn McShane
- 8 Hyd – Pre show Deaf Theatre Club BSL Joe Rollin
Sgwrs Ôl Sioe
Bydd siaradwr gwadd yn ymuno â’r cast a’r cyfarwyddwr ar gyfer trafodaeth yn dilyn perfformiad o’r sioe A Visit.
Dydd Mawrth 7 Hyd, Caerdydd, Theatr y Sherman – Suzanne Miller
Dydd Mercher 8 Hyd Caerdydd, Theatr y Sherman – Zuzanna Cybulska
Cynhelir y sgyrsiau hyn yn yr un man â’r sioe, yn syth ar ôl y perfformiad. Bydd saib bychan tra bod y cast yn paratoi i ddychwelyd i’r llwyfan a chymryd rhan yn y drafodaeth. Mae hwn yn gyfle i’r gynulleidfa adael neu aros.
Yn syth ar ôl y sioe byddwn yn cynnal gofod i drafod themâu’r sioe, sut aethom ati i ymchwilio a chreu’r sioe. Yn ymuno â ni fydd cynrychiolydd o PACT – Prison Advisory Care Trust, sydd wedi’n cynghori a’n cefnogi ni ar y sioe hon.