Adolygiad
14 - 29 HydrefPrisiau
Cyffredinol £16 - £27, Rhagolwg Talwch Beth Allwch Chi (14, 15 & 17 Hyd), Gostyngiadau £2 bant, Dan 25 Hanner Pris, Ysgolion £9 +1 tocyn am ddim i athrawon am bob 10 plentyn, Tocynnau Prynhawn Canol Wythnos i bobl dros 60 £10
Gwybodaeth Bellach
- Gofod: Y Brif Theatr
- Iaith: Perfformiwyd yn Saesneg gyda darnau o ddeialog yn Gymraeg. Bydd y ddeialog Gymraeg yn cael ei chapsiynu fel rhan o’r cynhyrchiad ym mhob perfformiad.
- Mon 24 Oct - 6:30pm Relaxed Performance
- Tue 25 Oct - 7:30pm Captioned
- Sat 29 Oct - 2pm Captioned
- Thu 27 Oct - 7:30pm Audio Described
- Sat 29 Oct - 2pm BSL interpreted
Caiff swyn hudolus ei fwrw dros Gaerdydd fis Hydref
Yn y ddinas batriarchaidd, fe ddywedir wrthych pwy mae hawl gennych ei garu. Mae Hermia yn caru Lysanna ond yn cael ei gorfodi i briodi Demetrius. Tra bod Helena, ffrind Hermia, yn addoli Demetrius yn gyfrinachol. Drwy ddianc i’r coed, daw pedwar person ifanc o hyd i fyd heb reolau, lle mae unrhyw beth yn bosib.
Mae’r awduron Mari Izzard a Nia Morais yn gwasgaru hud ychwanegol ar y clasur gydag addasiadau Cymraeg newydd, gan greu profiad theatrig dwyieithog cyfoethog. Bydd y ddeialog Gymraeg yn cael ei chapsiynu fel rhan o’r cynhyrchiad ym mhob perfformiad.
Rydym yn adnabyddus am ein addasiadau ffres a chyfoes o ddramâu clasurol gan gynnwys The Taming of the Shrew, Hedda Gabler ac A Hero of the People. Nawr, taflwn oleuni newydd ar y clasur bytholwyrdd hwn mewn cynhyrchiad o A Midsummer Night’s Dream i’n hoes ni.
Wedi’i pherfformio gan gast rhagorol o actorion Cymreig a rhai sy’n byw yng Nghymru, A Midsummer Night’s Dream yw’r ddrama mae pawb angen ar hyn o bryd. Bydd stori lawen Shakespeare am ddyheadau yn siwr o godi calon. Ymunwch â ni’r hydref hwn a theimlwch eich ysbryd yn llawenhau.
Mae pris popeth fel petai ar gynnydd ar hyn o bryd, ac rydyn ni eisiau sicrhau bod cost tocynnau o fewn cyrraedd cymaint o bobl â phosib:
- Gall bawb Dan 25 weld A Midsummer Night’s Dream am hanner pris.
- Gall 2 Oedolyn (hŷn na 25 oed) a 2 berson dan 25 oed weld A Midsummer Night’s Dream o lai na £50 (yn amodol ar argaeledd).
- Gyda’n Rhagddangosiadau Talwch Beth Allwch Chi ar gyfer y sioe yma, gallwch dalu’r swm sy’n gweithio i chi.
- Rhannwch gost eich tocynnau ar gyfer y sioe yn ddau daliad hafal, gydag un taliad wrth archebu a’r llall wythnos cyn y perfformiad.
Ffoniwch 029 2064 6900 i ddysgu mwy (ar gael i archebion o £20 neu fwy).