A Hero of the People

Crëwyd yn y Sherman Theatre

Ysgrifennwyd gan Brad Birch

Cyfarwyddwyd gan Joe Murphy

Archive

Adolygiad

13 - 28 Mai 2022
Amseroedd amrywiol

Gwybodaeth Bellach

  • Iaith: Saesneg
  • Gofod: Stiwdio
  • Perfformiadau pellter cymdeithasol: 26 & 28 Mai 2.00yp
Gwybodaeth Pwysig

Mae’r sioe yn cynnwys iaith gref, goleuadau sy’n fflachio, cyfeiriadau at hunanladdiad a defnyddio cyffuriau.

Ailddehongliad o An Enemy of the People gan Henrik Ibsen

Arwr neu elyn? Pwy all ddweud y gwahaniaeth?

Fe fydd popeth yn iawn, ac yn well na iawn – a dweud y gwir, mae popeth yn bosib dim ond i bawb ddangos ychydig o ffydd.

Dyna beth mae Aelod Seneddol y dref, Mick, yn ei feddwl. Mae’n ffyddiog, yn hwyliog o hyderus am ei gynllun ar gyfer y dref. Fe ddylai’r rhai sy’n darogan gwae roi taw arni. Ond mae yna broblem. Mae ei chwaer, Dr Rhiannon Powell, wedi darganfod bod y prosiect yn llygru cyflenwad dŵr y dref. Fe werthodd Mick stori i’r dref am ddyfodol posib, ond beth fydd yn digwydd pan fydd realiti’n bygwth chwalu’r stori honno’n ddarnau?

Ai Mick yw arwr y bobl, neu ai ef, mewn gwirionedd, yw’r gelyn?

Mae ailddehongliad beiddgar newydd Brad Birch o An Enemy of the People gan Ibsen yn gosod y personol yn erbyn y gwleidyddol a’r ffeithiau yn erbyn emosiwn. Mae A Hero of the People yn ddrama gyfoes afaelgar ar gyfer 2022.

Sgwrs yn dilyn y sioe:

Yn dilyn y perfformiad ar Nos Fawrth 24 Mai bydd sgwrs i drafod y ddrama. Yn ymuno â ni fydd:

  • Dr Carrie Westwater – Prifysgol Caerdydd, Ysgol Newyddiaduraeth, Cyfryngau a Diwylliant
  • Dr Marta Minier – Athro Cyswllt Theatr a Drama yn y Cyfryngau (USW)
  • Rahim Elhabachi – Dramodydd, Crëwr Theatr ac Artist Cyswllt gyda NTW

Bydd y perfformiad yma gyda dehongliad BSL.

___

Sylwch nad yw’n ofynnol bellach i aelodau’r gynulleidfa ddangos pas Covid y GIG i gael mynediad i berfformiad.
Mae gwisgo mwgwd yn cael ei annog.
Darganfyddwch fwy am y camau rydym yn eu cymryd i gadw ein cynulleidfaoedd a’n staff yn ddiogel.

Tîm Creadigol