Mae aelodaeth Cynllun Buddiolwyr yn £600 am 12 mis.
Fel diolch am eich cefnogaeth byddwch yn derbyn:
- Tocynnau am ddim i chi ac un gwestai i dri chynhyrchiad Crëwyd yn y Sherman y flwyddyn, gyda’r opsiwn i fynychu naill ai noson gwadd penodol a derbyniad diodydd neu ddyddiad arall o’ch dewis.
- Gwahoddiad i’n digwyddiad blynyddol i gefnogwyr a gynhelir gan ein Cyfarwyddwr Artistig ac aelodau o dîm y Sherman.
- Bwletinau a diweddariadau e-bost rheolaidd.
- Gwasanaeth archebu tocynnau ymroddedig drwy linell uniongyrchol i’n hadran Codi Arian.
- Cydnabyddiaeth o’ch cefnogaeth ar wefan Theatr y Sherman.
Digwyddiadau ar y gweill i gefnogwyr y Cynllun Buddiolwyr:
Nos Fawrth 3 Medi 2024, 6yh – Noson Gwadd y Cynhyrchiad – Iphigenia yn Sblot gan Gary Owen
Nos Fawrth 15 Hydref 2024, 6yh – Noson Gwadd y Cynhyrchiad – Odyssey ’84 gan Tim Price
Nos Fawrth 26 Tachewedd 2024, 6yh – Noson Gwadd y Cynhyrchiad – A Christmas Carol gan Gary Owen
Rydym hefyd yn gallu cynnig taith Tu ôl i’r Llen i aelodau newydd ar y dyddiadau canlynol:
- Dydd Sadwrn 7 Medi 2024 10-11yb
- Dydd Gwener 8 Tachwedd 2024 10-11yb
- Dydd Sadwrn 11 Ionawr 2025 10-11yb
- Dydd Gwener 14 Mawrth 2025 10-11yb
- Dydd Sadwrn 10 Mai 2025 10-11yb
- Dydd Gwener 11 Gorfennaf 2025 10-11yb
- Dydd Sadwrn 13 Medi 2025 10-11yb
- Dydd Gwener 7 Tachwedd 2025 10-11yb
Mae’r Cynllun Buddiolwyr yn cynnwys gwerth y buddion sy’n cynrychioli cost yr aelodaeth i’r elusen. Gellir prynu’r buddion hyn ar wahân am y pris yma. Mae unrhyw arian a roddir yn ychwanegol i’r gwerth hwn yn cael eu rhoi fel rhodd ac yn gymwys ar gyfer Rhodd Cymorth. Cynllun Buddiolwyr – Rhodd £374 / Buddion £226.
I drafod prynu’r buddion ar wahân cysylltwch ag Emma Tropman, Pennaeth Codi Arian a Datblygu, ar 02920 646976.
Aelodaeth Rhodd
Mae ein holl aelodaeth flynyddol ar gael i’w prynu fel Aelodaeth Rhodd. Dewiswch yr opsiwn ‘Anfon fel Rhodd’ wrth brynu’r aelodaeth.
I gael gwybod mwy am unrhyw un o’n cynlluniau aelodaeth cysylltwch â’n hadran Codi Arian ar emma.tropman@shermantheatre.co.uk neu 02920 646976.