Ymaelodwch â chynllun Aelodaeth a helpwch ni i barhau i greu cynyrchiadau bythgofiadwy, datblygu’r genhedlaeth nesaf o artistiaid, a rhoi’r cyfle i bawb greu a gweld theatr arbennig.
Mae lefelau aelodaeth ar gael fel a ganlyn:
Aelodaeth Efydd y Sherman – Dim ond £6 y mis (£72 y flwyddyn)
Buddion aelodaeth:
- Taith Tu ôl i’r Llen i bob aelod newydd
- E-gylchlythyr i aelodau (ddwywaith y flwyddyn).
- Cyfle i ymuno â ni yn flynyddol ar gyfer ein digwyddiad i gefnogwyr a gynhelir gan ein Cyfarwyddwr Artistig ac aelodau o dîm y Sherman.
- Cyfnewid tocynnau am ddim / dim ffi i gyfnewid tocynnau i Aelodau Efydd y Sherman.
Aelodaeth Arian y Sherman – £20 y mis (£240 y flwyddyn)
Holl fanteision Aelodaeth Efydd y Sherman, ynghyd â:
- Gwahoddiad i ddigwyddiadau arbennig yn Theatr y Sherman, dan arweiniad artistiaid a chrewyr theatr (ar gael i bob Aelod Arian ac un gwestai).
- Gwasanaeth penodol i archebu tocynnau trwy linell uniongyrchol i’n hadran Codi Arian.
- Cydnabyddiaeth o’ch cefnogaeth ar wefan Theatr y Sherman.
Aelodaeth Aur y Sherman – £600 y flwyddyn
Holl fuddion Aelodaeth Efydd ac Arian y Sherman, ynghyd â:
- Tocynnau am ddim i bob Aelod Aur ac un gwestai i dri chynhyrchiad ‘Crëwyd yn y Sherman’ y flwyddyn, gyda’r opsiwn i fynychu naill ai ar noson â derbyniad diodydd penodol i westeion neu ddyddiad arall o’ch dewis.
Aelodaeth Rhodd
Mae pob cynllun aelodaeth flynyddol hefyd ar gael i’w prynu fel Aelodaeth Rhodd trwy ein Swyddfa Docynnau ar 02920 646900.
I gael gwybod am y manteision o ymuno â chynllun Aelodaeth Sherman, lawrlwythwch ein pecyn gwybodaeth.
Telerau ac Amodau ar gyfer Aelodaeth y Sherman:
• Mae pob aelodaeth yn cynnwys o leiaf 12 mis o derm
• Fel Elusen Gofrestredig, sylwch nad oes modd ad-dalu unrhyw aelodaeth na rhoddion i’r Sherman.
* Mae Aelodaeth Aur y Sherman yn cynnwys gwerth buddion sy’n cyfateb â chost yr aelodaeth i’r elusen. Gellir prynu’r buddion hyn ar wahân am y pris hwn. Mae unrhyw swm a roddir yn ychwanegol at werth y buddion yma yn cael eu rhoi fel rhodd ac yn gymwys am Rodd Cymorth. Aelodaeth Aur y Sherman – Rhodd £368 / Buddiannau £232. I drafod prynu buddion ar wahân, cysylltwch ag Emma Tropman, Pennaeth Codi Arian a Datblygu, ar 02920 646976.