CADARNHAU VIVIEN PARRY YN Y BRIF RAN YN THE WIFE OF CYNCOED

Cyhoeddiadau
Mae’r actor llwyfan a sgrin Vivien Parry, wedi’i chastio ym mhrif ran ein cynhyrchiad nesaf, The Wife of Cyncoed gan Matt Hartley (7-23 Mawrth 2024).

Yn ddiweddar bu Vivien yn serennu fel Fraulein Schneider yn y cynhyrchiad West End llwyddiannus Cabaret; yr adfywiad cerddorol a gafodd y mwyaf o wobr yn hanes Gwobrau’r Oliviers. Hefyd yn y West End, mae hi wedi perfformio yn Les Misérables, Mamma Mia, Top Hat, Half a Sixpence a llawer mwy. Mae ei chredydau theatr eraill yn cynnwys Sydney and the Old Girl (Park Theatre), Twelfth Night ac A Midsummer Night’s Dream gyda’r Royal Shakespeare Company, ac 13 o gynyrchiadau Theatr Clwyd gan gynnwys Blackthorn, Macbeth a Shakespeare’s Will. Ar y sgrin fawr, mae Vivien hefyd wedi ymddangos yn Disney’s Beauty and the Beast.

Dywedodd Vivien: “Mae Caerdydd yn ddinas sydd â fy nghalon bob amser. Rwy’n dod o deulu o gymoedd de Cymru ond mae gwaith, cariad, cyfeillgarwch a rygbi bob amser yn fy nhynnu’n ôl i Gaerdydd. Rwyf wrth fy modd i fod yn perfformio’r rôl hon yn y theatr hon; y ddau wedi’u gwreiddio’n gadarn mewn dinas rwy’n ei charu.”

Wedi’i hysgrifennu gan Matt Hartley a’i chyfarwyddo gan Hannah Noone, mae The Wife of Cyncoed yn fonolog ddifyr sy’n cyflwyno Jayne, ysgarwraig sy’n agosáu at groesffordd yn ei bywyd.

Wedi’i lleoli ym maestrefi Cyncoed a Lakeside yng Nghaerdydd, mae’n stori am hunanddarganfyddiad ac ail gyfle, yn llawn dynoliaeth. The Wife of Cyncoed yw’r cynhyrchiad cyntaf yn nhymor 2024 Theatr y Sherman; saith cynhyrchiad yn cynnwys pum drama newydd sbon yn rhannu straeon de Cymru sy’n atseinio ledled y byd.

Mae bywyd Jayne ar groesffordd. Wedi’i magu yn Nhredelerch, bu’n byw yng Nghyncoed, ond ar ôl ysgariad chwerw cafodd ei hun yn byw ar ei phen ei hun yn Lakeside. Newydd ymddeol ac yn groes i’w phlant, mae ffordd newydd o fyw yn agor yn sydyn iddi. Ond a wnaiff hi roi caniatâd iddi ei hun fyw ei bywyd newydd yn llawn?

Yn ymuno â’r Cyfarwyddwr Hannah Noone yn y tîm creadigol mae’r Cynllunydd April Dalton, y Cyfansoddwr a Chynllunydd Sain Sam Jones a’r Cynllunydd Goleuo Katy Morison.