RHEDWR YN WYNEBU HER UWCHFARATHON I GODI ARIAN AR GYFER RHAGLEN YMGYSYLLTU CREADIGOL THEATR Y SHERMAN

Announcements Cyhoeddiadau

Mae rhedwr brwd yn paratoi i ymgymryd â uwchfarathon 200 milltir ar draws de Cymru rhwng 15 a 20 Ebrill, i godi arian ar gyfer rhaglen Ymgysylltu Creadigol Theatr y Sherman .

 

Bydd Mike Morgan yn rhedeg y Wild Horse 200 o Gas-gwent ar hyd Clawdd Offa, gan groesi Ffordd y Bannau cyn ymuno â Llwybr Arfordir Cymru a chyrraedd y llinell derfyn ym Mhen Pyrod.

 

Drwy dudalen ariannu torfol, digwyddiadau codi arian a nawdd, ei nod yw codi £5,000 i sefydlu cynllun bwrsariaeth i gefnogi cyfranogiad ar draws rhaglenni Theatr Ieuenctid Sherman, Sherman Players neu Sherman Makers. Bydd y cynllun bwrsariaeth yn cynnig lleoliadau wedi’u hariannu’n llawn ac yn rhannol i unigolion sy’n profi rhwystrau ariannol i gyfranogi.

 

Mae Mike ei hun wedi bod yn gyfranogwr yn rhaglen Ymgysylltu Creadigol Theatr y Sherman; yn gyn-Sherman Player ac yn aml yn aelod o Gorws y Gymuned, mae wedi perfformio mewn sawl cynhyrchiad ar brif lwyfan y Sherman, gan gynnwys A Midsummer Night’s Dream, Tales of the Brothers Grimm ac Odyssey ’84 . Ym mis Hydref 2025 roedd yn un o grŵp o redwyr a gwblhaodd Hanner Marathon Caerdydd er budd Cronfa Rhannwch Eich Angerdd y Sherman.

 

Dywedodd Mike: “Rwy’n rhedeg 200 milltir dros Theatr y Sherman oherwydd y cyfleoedd anhygoel maen nhw wedi’u rhoi i mi, a nawr rwyf am helpu i drosglwyddo hynny. Mae’r Sherman yn lle rhyfeddol – mae’n dod â phobl at ei gilydd, yn meithrin talent ifanc, ac yn gwneud y celfyddydau’n hygyrch i bawb. Fy nod yw sicrhau bod gan bawb y cyfle i ymgysylltu’n greadigol, waeth beth fo’r rhwystrau ariannol.”

 

Dywedodd Emma Tropman, Pennaeth Codi Arian a Datblygu Theatr y Sherman: “Gweledigaeth Sherman yw byd sydd wedi’i wneud yn fwy cyfartal, yn fwy tosturiol, yn fwy unedig gan bŵer y theatr. Mae’r cynllun bwrsariaeth sydd gennym ni yma yn enghraifft berffaith o sut y gallem ni amrywio cyfranogiad, ehangu cyfleoedd mynediad agored, agor ymgysylltiad creadigol i bawb a chefnogi ac annog pobl i roi cynnig ar rywbeth newydd.

 

“Mae hwn yn gynllun hirdymor hefyd, nid rhywbeth a fydd yn dechrau ac yn gorffen unwaith y bydd y gronfa gyllido gychwynnol hon wedi’i gwario. Rydym yn bwriadu defnyddio’r arian cychwynnol a godir fel catalydd ar gyfer codi arian yn y dyfodol, gydag ymrwymiad craidd i gynnig lleoliadau bwrsariaeth ar draws ein rhaglenni fel safon o’r flwyddyn nesaf ymlaen.

 

“Mae ein diolchgarwch i Mike am ymgymryd â her mor oruwchddynol yn amhrisiadwy, ac rydym yn edrych ymlaen at ei gefnogi bob cam o’r ffordd.”

 

Cyhoeddir rhagor o wybodaeth am y cynllun bwrsariaeth, gan gynnwys y meini prawf ymgeisio a chymhwysedd, yn Haf 2026. Yn y cyfamser, gellir dod o hyd i dudalen ariannu torfol Mike yn: https://www.crowdfunder.co.uk/p/therunningthespian.