50 am 50

Sherman yn 50

Dros y 50 mlynedd diwethaf mae Theatr y Sherman wedi cyflwyno’r theatr i genedlaethau o blant. Mae’r Sherman yn credu y dylai theatr eithriadol a ddyrchafol fod o fewn cyrraedd pawb. Drwy ei phrisiau hygyrch ar gyfer cynyrchiadau Crëwyd yn y Sherman, gall dau oedolyn a dau blentyn weld sioeau Nadolig gwefreiddiol y Brif Theatr o lai na £50. Mae perfformiadau Talwch Beth Fynnwch, cyfleusterau talu fesul cam a phrisiau tocynnau isel i aelodau Sherman 5, a rhaglen datblygu cynulleidfa arloesol y theatr i gyd yn sicrhau bod Theatr y Sherman yn hygyrch i bawb.

I ddathlu ei phen-blwydd yn 50 oed a’i hymrwymiad i hygyrchedd, mae Theatr y Sherman wedi cyhoeddi 50 am 50 sy’n rhoi’r cyfle i 50 o deuluoedd sydd erioed wedi mynychu’r Sherman o’r blaen i ddod i weld ei sioeau Nadolig yn rhad ac am ddim. Bydd pob teulu yn derbyn hyd at 5 tocyn ar gyfer perfformiad o naill ai Peter Pan, ar gyfer oed 7+, a Hansel a Gretel, ar gyfer plant 3-6 oed, rhwng 2 a 6 Ionawr 2024. Bydd teuluoedd yn gymwys os nad ydynt wedi mynychu’r Sherman o’r blaen.

Ni ellir trosglwyddo tocynnau, gellir eu defnyddio am un perfformiad yn unig, ni ellir eu cymhwyso yn ôl-weithredol ac yn amodol ar argaeledd ar sail y cyntaf i’r felin. Gall teuluoedd wneud cais i archebu tocynnau drwy ffonio Swyddfa Docynnau’r Sherman ar 029 2064 6900.