Y SHERMAN YN 50

Uncategorized @cy
THEATR Y SHERMAN YN CYHOEDDI MANYLION CYNTAF EI RHAGLEN PEN-BLWYDD YN HANNER CANT

Ymhlith y cynyrchiadau cyntaf a gyhoeddwyd ar gyfer blwyddyn pen-blwydd Theatr y Sherman yn 50 oed mae:

  • Imrie gan Nia Morais, gyda Gethin Evans yn cyfarwyddo mewn cyd-gynhyrchiad gyda Frân Wen
  • Romeo and Julie gan Gary Owen, gyda Rachel O’Riordan yn cyfarwyddo mewn cyd-gynhyrchiad gyda’r National Theatre
  • Gŵyl Theatr Ieuenctid y Sherman sy’n cynnwys Ghost Cities

Bydd Tachwedd 2023 yn nodi 50 mlynedd ers i Theatr y Sherman, theatr i Gymru yng Nghaerdydd, agor ei drysau am y tro cyntaf i bobl y brifddinas a’r genedl. Drwy gydol 2023 bydd Theatr y Sherman yn dathlu ei chynulleidfaoedd, artistiaid a chymunedau trwy raglen eang a blaengar o waith ymgysylltu artistig a chymunedol.

Heddiw, mae Theatr y Sherman yn cyhoeddi cynyrchiadau cyntaf y flwyddyn hon o ddathlu gydag ystod amrywiol o leisiau newydd ac adnabyddus o fyd y theatr Gymreig yn hawlio’r llwyfan. Drwy’r flwyddyn, bydd cymunedau ar draws Caerdydd a De Cymru unwaith eto yn gweld eu profiadau yn cael ei gynrychioli ar lwyfannau’r Sherman gyda gwaith yn y Gymraeg a’r Saesneg. Bydd drysau’r Sherman ar agor drwy gydol y flwyddyn i’r holl gynulleidfaoedd, artistiaid, cymunedau a staff niferus sydd wedi chwarae rhan yn stori’r Sherman, er mwyn eu croesawu yn ôl i’r adeilad.

Dywedodd Joe Murphy, Cyfarwyddwr Artistig Theatr y Sherman “Am 50 mlynedd mae Theatr y Sherman wedi gwasanaethu cynulleidfaoedd, artistiaid a chymunedau Caerdydd a De Cymru gyda gwaith yr ydym yn teimlo y gall y genedl gyfan fod yn falch ohono. Mae’r flwyddyn hon ar gyfer ein cynulleidfaoedd, ein hartistiaid a’n cymunedau. Mae’n ddathliad blwyddyn gron, ar gyfer y bobl rydyn ni’n bodoli i’w gwasanaethu. Edrychwn yn ôl, ond edrych ymlaen y byddwn yn bennaf, a byddwn bob amser yn gweithio i ddifyrru drwy ddramâu eithriadol, straeon lleol a gwaith arloesol.”

Daeth Nia Morais i’r amlwg fel un o leisiau mwyaf cyffrous y theatr Gymeig yng nghanol y pandemig gan ryddhau ei drama gyntaf Crafangau fel rhan o gyfres sain Theatr y Sherman, Calon Caerdydd, ac fe’i llwyfannwyd yn ddiweddarach mewn perfformiadau awyr agored. Mae hi bellach yn Awdur Preswyl yn Theatr y Sherman, ac yn dilyn ei gwaith yn addasu A Midsummer Night’s Dream i’r Gymraeg ochr yn ochr â Mari Izzard, bydd Nia yn adrodd stori hudolus i oedolion ifanc am ddewrder yn ei drama newydd yn yr iaith Gymraeg – Imrie (Mai 12 – 20, 2023). Bydd Imrie yn gyd-gynhyrchiad gyda Frân Wen ac yn cael ei gyfarwyddo gan eu Cyfarwyddwr Artistig, Gethin Evans (Woof Theatr y Sherman), cyn Gyfarwyddwr Cyswllt Theatr y Sherman. Bydd perfformiadau cyntaf Imrie yn y Sherman cyn teithio ledled Cymru.

Mae gwaith Gary Owen yn gyfystyr â Theatr y Sherman. Yn y blynyddoedd diwethaf mae ei ddramâu megis Iphigenia in Splott, Killology, The Cherry Orchard ac A Christmas Carol wedi bod yn ganolog i lwyddiant Theatr y Sherman wrth ei sefydlu fel un o brif dai cynhyrchu’r DU sydd ag enw da yn rhyngwladol. Mae drama newydd Gary Romeo and Julie (Ebrill 13 – 29, 2023) wedi’i gosod yng nghymunedau Tremorfa a Sblot yng Nghaerdydd, ac yn stori garu fodern wedi’i hysbrydoli gan ddrama Shakespeare Romeo and Juliet, ac mae’n dangos yr anghyfartaledd mewn cyfleoedd sy’n wynebu llawer o bobl ifanc heddiw. Bu’r bartneriaeth rhwng Gary, sy’n Artist Cyswllt y Sherman a’r cyn Gyfarwyddwr Artistig Rachel O’Riordan yn deilwng o Wobr Olivier, ac maent yn dod at ei gilydd unwaith eto ar gyfer y cyd-gynhyrchiad hwn rhwng Theatr y Sherman a’r National Theatre a oedd wedi’i amserlennu’n wreiddiol ar gyfer 2020. Mae cast Romeo and Julie yn cynnwys Catrin Aaron (The Lovely Bones Birmingham Rep, Missing Julie Theatr Clwyd), Paul Brennen (A Discovery of Witches Sky, Happy Valley BBC), Anita Reynolds (The Lion, the Witch and the Wardrobe Theatr y Sherman, A Monster Calls The Old Vic / Bristol Old Vic), Callum Scott Howells (It’s A Sin Channel 4, Cabaret West End) a Rosie Sheehy (Bird Theatr y Sherman, All’s Well That Ends Well RSC). Mae’r tîm creadigol yn cynnwys y Cynllunydd Hayley Grindle (Iphigenia in Splott, A Christmas Carol Theatr y Sherman), y Cynllunydd Goleuo Jack Knowles, y Cynllunydd Sain Gregory Clarke a’r Cyfarwyddwr Staff Kwame Owusu. Bydd Romeo and Julie yn agor yn y National Theatre cyn y perfformiadau yn Theatr y Sherman. Bydd tocynnau yn mynd ar werth ar Hydref 14.

Mae creadigrwydd aruthrol ei phobl ifanc wedi bod yn destun balchder cyson i Theatr y Sherman ers blynyddoedd lawer. Mae Theatr Ieuenctid y Sherman wedi bod yn un o’r rhaglenni ymgysylltu creadigol pwysicaf ar gyfer pobl ifanc De Cymru ers tro. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae Theatr Ieuenctid y Sherman wedi meithrin enw da am roi’r bobl ifanc ar flaen y gad o ran eu datblygiad creadigol eu hunain. Bydd y criw hwn o wneuthurwyr theatr ifanc yn cydweithio â chyfranogwyr ein rhaglen ddatblygu hynod lwyddiannus Cyflwyniad i Ysgrifennu Dramâu ar gyfer pobl ifanc 15 i 18 oed, wrth gael eu hysbrydoli gan Ghost City gan Gary Owen; byddant yn archwilio ei ddarlun ef o Gaerdydd, er mwyn creu rhai eu hunain. Bydd y ddrama newydd hon yn sôn am ein gorffennol, a’n dyfodol, ond bydd wedi’i gwreiddio’n gadarn yn y presennol, gan rannu’r hyn y mae’r ddinas hon yn ei olygu i’n pobl ifanc yma heddiw. Mae Ghost Cities (Mawrth 2 – 4, 2023) hefyd yn rhan o’r Ŵyl Theatr Ieuenctid sy’n ddathliad pen-blwydd arbennig a gynhelir gan Theatr y Sherman (Ebrill 4 – 6, 2023). Bydd y Sherman yn croesawu rhwydwaith bywiog o gwmnïau theatr ieuenctid o bob rhan o Gaerdydd a De Cymru, gan gyfuno perfformiadau ac amserlen brysur o weithdai wrth i’r bobl ifanc hyn feddiannu’r adeilad.

Bydd rhagor o fanylion am raglen y Sherman yn 50 yn cael eu cyhoeddi dros y misoedd nesaf. Mae gweithio mewn partneriaeth â chwmnïau eraill wedi bod yn elfen allweddol o waith Theatr y Sherman ers amser maith, ac felly ochr yn ochr â chyd-gynyrchiadau gyda’r National Theatre a Frân Wen, bydd y Sherman yn cydweithio â Theatr Iolo ar gynhyrchiad Nadolig y Prif Dŷ 2023 ar gyfer plant dros 7 oed. Bydd y rhaglen ben-blwydd orlawn hon hefyd yn cynnwys mwy o gynyrchiadau gan ac ar gyfer cymunedau amrywiol Theatr y Sherman, digwyddiadau cymunedol, gweithgareddau digidol yn edrych yn ôl dros ddigwyddiadau allweddol yn hanes y Sherman, a phenwythnos arbennig iawn o ddigwyddiadau dros y penwythnos pen-blwydd.