Mae’r brodyr Grimm yn poeni’n fawr am yr holl gymeriadau sy’n wedi’u gollwng yn rhydd ac yn gofyn am help Stevie i geisio cael pethau’n ôl dan reolaeth. Allwch chi helpu Stevie trwy greu poster ‘Yn Eisiau’ ar gyfer eich hoff gymeriad o stori dylwyth teg?
Hoffem i chi a’ch dosbarth/grŵp greu posteri Yn Eisiau ar gyfer y cymeriadau sydd wedi dianc yn y Grimmdom. Anfonwch nhw atom a byddwn yn eu harddangos yn y cyntedd yn barod i chi eu gweld pan fyddwch yn ymweld.
Tasg:
Hoffem i chi a’ch dosbarth / grŵp greu posteri Yn Eisiau ar gyfer y cymeriadau sydd wedi dianc yn y Grimmdom, ac efallai y gwnaiff Stevie ddod ar eu traws. Efallai eu bod yn gymeriad adnabyddus, hoff gymeriad, neu unrhyw gymeriad o unrhyw stori dylwyth teg a allai fod wedi dianc! Dylent dynnu llun ohonynt ar ffurf poster Yn Eisiau, eu hanfon atom a byddwn yn eu harddangos yn y cyntedd yn barod i chi eu gweld.
Poster Yn Eisiau
1. Ar ddarn o bapur ysgrifennwch YN EISIAU ar y brig.
2. Gadewch le o dan y teitl i dynnu eich llun.
Sut olwg sydd ar eich cymeriad?
-
- Taldra
- Lliw gwallt
- Lliw llygaid
- Dillad
Peidiwch ag anghofio cynnwys unrhyw nodweddion anarferol amdanyn nhw – a oes ganddyn nhw unrhyw greithiau er enghraifft, neu efallai bod ganddyn nhw ddwy lygad sy’n lliwiau gwahanol?
3. Ar waelod y dudalen ysgrifennwch frawddeg fer am ble cafodd y person hwn eu gweld ddiwethaf – ai yn eu cartref, yn y stryd neu mewn siop?
4. Peidiwch ag anghofio cynnig gwobr am eu dal! Beth fydd gwerth y wobr hon?
Anogwch eich grŵp i fod yn anturus. Gellir creu y lluniau drwy ddefnyddio collage o ddelweddau a gweadau gwahanol. Gallai hyn fod yn gysylltiedig â’ch cwricwlwm Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu yn ogystal â maes dysgu a phrofiad y Celfyddydau Mynegiannol. Rydym am gael ein swyno gan eich ymdrechion felly ceisiwch ein syfrdanu gyda’ch penderfyniadau artistig gwych.
D.S Ni ddylai’r lluniau hyn fod ar bapur sy’n fwy nag A3.
Anfonwch y lluniau ynghyd â’r wybodaeth ganlynol i’r theatr wythnos cyn i chi ddod i wylio’r sioe:
Enw arweinydd y grŵp
Enw’r Grŵp / Ysgol
Dyddiad ac amser rydych chi’n mynychu’r sioe
Dylid eu hanfon i’r cyfeiriad canlynol:
At Sylw: Y Brodyr Grimm
Theatr y Sherman
Ffordd Senghennydd
Caerdydd
CF24 4YE
Edrychwn ymlaen at eich gweld chi, eich grŵp a’u gwaith celf gwych yn fuan.