Fel rhan o’i ymrwymiad i gefnogi cymaint o bobl â phosibl i gymryd rhan mewn theatr, mae Theatr y Sherman yn cynnal rhaglen ysgrifennu wythnosol am ddim yr Hydref hwn, gan gynnig cyngor a hyfforddiant arbenigol ar faes llafur eang yn cynnwys creu cymeriadau, ail-ddrafftio a strwythuro, sut mae comisiynu’n gweithio a ffyrdd amgen o gael gwaith wedi’i greu.
Wedi’i addysgu gan Adran Lenyddol fewnol y Sherman, a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Bad Wolf, a’i gyflwyno dros wyth sesiwn gyda’r nos (ar-lein ac yn bersonol) rhwng mis Medi a Thachwedd 2025, mae Mireinia dy Grefft wedi’i hanelu at awduron Cymreig neu sy’n byw yng Nghymru sy’n dymuno bod yn ddramodydd neu sy’n ystyried ei hun yn ddramodydd. Mmae wedi’i gynllunio i uwchsgilio a hysbysu awduron o’u syniad cychwynnol i’r noson agoriadol.
Caiff y cwrs ei gynnal yn Saesneg ond mae croeso i awduron sy’n ysgrifennu mewn unrhyw iaith. Mae’r cwrs am ddim i fynychu ond mae lleoedd yn gyfyngedig. Gofynnir i awduron wneud cais am eu lle ar wefan Theatr y Sherman yn www.shermantheatre.co.uk/crewyr-theatr/?lang=cy erbyn dydd Iau 5 Medi 2025.
Wrth gyhoeddi’r rhaglen, dywedodd Davina Moss, Rheolwr Llenyddol Theatr y Sherman: “Mae dysgu yn rhan gydol oes o fod yn awdur, felly rydym wrth ein bodd yn cynnig y cyfle unigryw hwn i ddramodwyr Cymru; yn enwedig oherwydd ei fod yn fewnol, yn agored i bawb ac yn rhad ac am ddim.
“Rydyn ni’n gwybod bod straeon anhygoel allan yna ac rydyn ni wedi ymrwymo i roi’r offer i awduron o Gymru ac awduron sy’n byw yng Nghymru i adrodd y straeon hynny gyda thrylwyredd a dawn. Rwy’n annog pob awdur sy’n awyddus i wella eu sgiliau i wneud cais nawr.”
Mae Mireinia dy Grefft yn dilyn rhaglenni YMCHWILIO ac YMESTYN Theatr y Sherman; gan ganolbwyntio ar offer ysgrifennu dramâu, ond hefyd yn ymchwilio’n ddyfnach i sgiliau fel strwythur a thrylwyredd dramatig. Mae mwy na 200 o awduron wedi ennill sgiliau a phrofiad trwy raglenni datblygu awduron y cwmni dros y tair blynedd diwethaf, ac mae nifer ohonynt wedi mynd ymlaen i dderbyn comisiynau gan y cwmni.
Dywedodd yr awdur Edward Lee: “Cofrestrais fel awdur ar gyfer tri chwrs YMESTYN; Ailysgrifennu yw Pob Ysgrifennu, Calon y Broses yw’r Gynulleidfa, a Ffurf a Strwythur, ac roedd yn bleser dychwelyd i Theatr y Sherman wythnos ar ôl wythnos.
“Rhoddodd canolbwyntio ar agweddau penodol ar ysgrifennu trwy arweiniad gan weithwyr proffesiynol profiadol y hwb oedd ei angen arnaf i fynd yn ôl i ysgrifennu, a chyda ysgrifennu mor aml yn cael ei ystyried yn weithred ynysig, profodd y cyfle i gysylltu ag awduron eraill bob wythnos wrth ehangu fy sgiliau yn gadarnhaol ac yn grymuso.”
Dywedodd Prif Weithredwr Theatr y Sherman, Julia Barry: “Ein ffocws ar ddatblygu a chynhyrchu ysgrifennu newydd ac ar feithrin artistiaid o Gymru a’r rhai sydd wedi’u lleoli yng Nghymru yw’r hyn sy’n ein gwneud ni’n ystafell injan theatr Cymru. Mae’r cyfle hwn yn un o nifer rydyn ni’n eu cynnig i awduron ym mhob cam o’u gyrfa, ac fel bob amser mae’n gyffrous dychmygu pwy allai gymryd rhan a pha sgiliau y gallen nhw eu hennill neu eu gwella.”
Mae Theatr y Sherman yn croesawu sgriptiau digymell gan awduron hefyd – mae rhagor o wybodaeth am wasanaeth Anfonwch Eich Sgript y cwmni ar gael ar www.shermantheatre.co.uk/programme/anfonnwch-eich-sgript/?lang=cy.
Ac mae sesiynau Pit Stop y Sherman yn cynnig cyfle i awduron gwrdd â’r adran lenyddol i gael cefnogaeth neu gyngor, neu hyd yn oed sgwrs gyffredinol. Mae manylion llawn am y sesiynau i’w cael ar www.shermantheatre.co.uk/programme/pit-stop/?lang=cy.