Theatr y Sherman yn derbyn cyllid i barhau ac ehangu rhaglenni datblygu awduron sydd yn arwain y sector

Crewyr Theatr
Mae’n bleser enfawr gan Theatr y Sherman gyhoeddi y derbynfa o gyllid i sicrhau y parhad o waith helaeth yr Adran Llenyddol a lansiad cyfnod newydd, estynedig o’i rhaglen arloesol Cyflwyniad i Ysgrifennu Dramâu. Bydd y cyllid hwn yn sicrhau bod Theatr y Sherman yn parhau i ychwanegu at adeiladu sector theatr ddeinamig a chadarn yng Nghymru fel ystafell injan Theatr Gymreig wedi’i hysgogi gan greadigrwydd ei chymunedau.

Ers ei lansio ym mis Awst 2021, mae Adran Lenyddol y Sherman wedi cysylltu, grymuso a meithrin awduron Cymreig ac awduron sydd wedi ymgartrefu yng Nghymru trwy ystod gynhwysfawr o gyfleoedd. Mae Theatr y Sherman wedi dod yn gartref i awduron trwy amryw o gynlluniau sy’n cynnwys dwy fenter flaengar, naw mis o hyd – Sherman Writers Group a Cylch Sgwennu a welodd 16 o awduron yn cael eu meithrin trwy raglen strwythuredig i ddatblygu syniad cychwynnol i ddrafft terfynol. Gwelodd menter Lleisiau Nas Clywir 20 o awduron o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn rhannu eu llais, yn cael eu hysbrydoli gan ymarferwyr sy’n arwain y diwydiant, ac yn cael eu cefnogi gan eu cyfoedion a’r Tîm Artistig yn Theatr y Sherman. Mae’r gwasanaethau eraill yn cynnwys sesiynau un-i-un i awduron, cyfarfodydd neuadd y dref, clybiau darllen, nosweithiau awduron a chyfnodau o gyflwyno sgriptiau digymell. Dros y flwyddyn ddiwethaf mae’r Adran Lenyddol wedi ymgysylltu, datblygu a chefnogi tua 240 o awduron Cymreig ac awduron sydd wedi ymgartrefu yng Nghymru.

Dyfarnwyd y Cyngor Celfyddydau Cymru blwyddyn ychwanegol o gyllid i Theatr y Sherman i alluogi’r Adran Lenyddol i adeiladu ar y sylfaen a gosodwyd gan y Rheolwr Llenyddol, Branwen Davies, a’r Cydymaith Llenyddol, Alice Eklund. Bydd Branwen ac Alice yn trosglwyddo mantell eu gwaith ysbrydoledig wrth iddynt symud ymlaen i gyfleoedd newydd. Bydd Theatr y Sherman yn chwilio am ddau aelod newydd i’r tîm i arwain yr Adran Lenyddol yng nghamau nesaf y daith.

Mae rhaglen arloesol Cyflwyniad i Ysgrifennu Dramâu Theatr y Sherman wedi cefnogi a datblygu 45 o awduron ifanc ers dechrau’r cyfnod cyntaf o weithgareddau yn 2018. Mae cyfranogwyr wedi cael y cyfle i archwilio a thyfu eu sgiliau ysgrifennu creadigol. Trwy’r rhaglen, sy’n rhad ac am ddim i’r cyfranogwyr, mae Theatr y Sherman yn rhywle i bobl ifanc ddarganfod eu llais a’i rannu ag eraill. Roedd cam cyntaf y rhaglen, a gefnogwyd gan Sefydliad Esmée Fairbairn, yn hynod o gynhyrchiol gyda 26 o ddramâu yn cael eu hysgrifennu a’u rhannu, 24 ymson yn cael eu creu a’u perfformio ac 13 o ddramâu sain yn cael eu hysgrifennu a’u recordio. Cyrhaeddodd y rhaglen, sy’n cael ei harwain gan dîm Ymgysylltu Creadigol Theatr y Sherman ac sy’n gweithio gydag ymarferwyr arbenigol yn y sector, filoedd o bobl ifanc gan gynnwys 120 o weithwyr llawrydd.

Bydd ail gyfnod estynedig o dair blynedd y rhaglen yn dechrau yn Hydref 2022 diolch i gefnogaeth hael gan Sefydliad Moondance. Bydd y cyllid hefyd yn sicrhau y bydd Cyflwyniad i Ysgrifennu Dramâu yn parhau i fod yn rhad ac am ddim i gyfranogwyr. Bydd Cyflwyniad i Ysgrifennu Dramâu yn parhau i dyfu a meithrin sgiliau awduron ifanc a rhoi cyfle amhrisiadwy iddynt ddatblygu a rhannu eu gwaith. Bydd y cyfnod newydd yn gweld y rhaglen yn adnewyddu ei ganolbwynt ar ddarparu cyfleoedd i ystod amrywiol o awduron gyda chefndiroedd wedi eu tangynrychioli ar hyn o bryd ar draws y sector celfyddydau ehangach.

Dywedodd Joe Murphy, Cyfarwyddwr Artistig Theatr y Sherman, “Mae hyn yn newyddion gwych i Theatr y Sherman a’r artistiaid a’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Rydym yn hynod ddiolchgar i Gyngor Celfyddydau Cymru am y flwyddyn ychwanegol o gyllid ar gyfer ein Hadran Lenyddol. Dros gyfnod byr iawn o amser mae’r Tîm Llenyddol gwych wedi cysylltu â channoedd o awduron Cymreig ac awduron sydd wedi ymgartrefu yng Nghymru ar wahanol adegau yn eu gyrfaoedd. Mae’r rhaglenni datblygu awduron wedi dangos pa mor fywiog yw talent ysgrifennu yng Nghymru ac rydym wedi bod yn falch o ddarparu llwyfannau i awduron yr oedd angen i’w lleisiau gael eu clywed.

Hoffem ddiolch a thalu teyrnged i waith ysbrydoledig Branwen ac Alice a dymuno’r gorau iddynt yn y dyfodol. Rydym yn gyffrous iawn am yr hyn y byddwn yn ei gyflawni dros y flwyddyn nesaf ac yn edrych ymlaen at groesawu tîm newydd i’r Sherman.

Rydym yn haeddiannol falch o’r Cyflwyniad i Ysgrifennu Dramâu sydd wedi cael effaith enfawr ar ein cyfranogwyr ifanc rhyfeddol ac rydym wrth ein bodd y bydd hyn, diolch i Sefydliad Moondance, yn parhau. Mae Cyflwyniad i Ysgrifennu Dramâu yn profi bod achos i fod yn gyffrous am ddyfodol y theatr Gymraeg ac nid oes unrhyw gynllun yn crynhoi ein cenhadaeth i newid ac arallgyfeirio pwy yw’r storïwyr yn well.”

Dywedodd Rheolwr Ymgysylltu Creadigol Theatr y Sherman, Timothy Howe, “Rydym yn hynod falch o faint mae cyfranogwyr Cyflwyniad i Ysgrifennu Dramâu wedi cyflawni dros y pedair blynedd diwethaf. Nid crëwyr theatr yfory yn unig yw’r bobl ifanc hyn, ond crëwyr y presennol ar hyn o bryd. Mae ein gwerthfawrogiad yn enfawr i Sefydliad Esmée Fairbairn am gefnogi’r prosiect hwn ers 2018. Rydym nawr mor falch o gyhoeddi y bydd Cyflwyniad i Ysgrifennu Dramâu yn parhau ym mis Medi yn rhad ac am ddim diolch i gefnogaeth gan Sefydliad Moondance. Ni allwn aros i ddathlu a rhannu hyd yn oed fwy o straeon gan bobl ifanc greadigol eithriadol.”