Theatr y Sherman yn cyhoeddi enwau’r cyfranogwyr ar gyfer ei rhaglenni ysgrifennu newydd

Crewyr Theatr
Mae Theatr y Sherman wedi cyhoeddi enwau’r 16 awdur sydd wedi eu dewis i gymryd rhan yn ei rhaglenni datblygu awduron naw mis o hyd. Rhennir y cynllun yn ddau ran, sef rhaglen ar gyfer awduron sy'n gweithio yn y Gymraeg - Cylch Sgwennu’r Sherman a rhaglen i awduron sy'n gweithio yn Saesneg - Sherman Writers Group. Bydd y rhaglenni pwysig hyn yn meithrin a chefnogi awduron Cymreig a rhai sy’n byw yng Nghymru, ac fe fydd y cyfranogwyr yn gweithio ar y syniad cychwynnol a gyflwynwyd ganddynt wrth ymgeisio a’i ddatblygu yn ddrafft terfynol. Bydd yr awduron yn gweithio’n agos gyda Thîm Llenyddol y Sherman - y Rheolwr Llenyddol Branwen Davies a’r Cydymaith Llenyddol Alice Eklund yn ogystal â Chyfarwyddwr Artistig y theatr Joe Murphy ac awduron a chyfarwyddwyr gwadd, er mwyn datblygu eu dramâu. Bydd y sesiynau'n cael eu cynnal yn fisol wyneb yn wyneb ac ar-lein. Mae'r cynlluniau yma'n rhan o ystod o waith fydd yn cysylltu’r Tîm Llenyddol ag awduron, gan gynnwys ffenestr i gyflwyno sgriptiau, clybiau darllen, nosweithiau awduron a sesiynau pit stop un i un.

Derbyniwyd dros 90 o syniadau gan awduron oedd yn dymuno cymryd rhan yn y cynllun. Mae’r awduron sydd wedi eu dethol yn hanu o bob rhan o’r wlad, o Ogledd, Canolbarth a De Cymru ac yn cynrychioli ystod amrywiol o brofiad bywyd. Yr awduron sy’n cymryd rhan yn y Cylch Sgwennu yw: Ceri Ashe, Bethan Davies, Mari Izzard, Gareth Evans-Jones, Bethan Jones, Rhiannon Lloyd Williams, Wyn Mason a Kallum Weyman. Awduron y Sherman Writers Group yw: Tess Berry-Hart, Emma Cooney, Laura Dalgleish, Ciaran Fitzgerald, Paisley Jackson, Natasha Kaeda, Tom Price a Dan Tyte.
Dywedodd Branwen Davies “Rydym yn gyffrous ein bod yn meithrin ac yn adeiladu perthynas ag 16 o awduron yr ydym yn teimlo sydd â llais unigryw a syniadau diddorol, ac yr ydym yn awyddus i’w hannog a’u datblygu ymhellach. Dros gyfnod o 9 mis bydd yr awduron yn cael eu mentora a’u tywys o’u syniad cychwynnol i ddrafft terfynol o ddrama gyflawn. Trwy gydol y cwrs rhoddir adborth rheolaidd ar y gwaith ysgrifennu a bydd cyfle i rannu gwaith ac ymgysylltu ag awduron sy’n gysylltiedig â’r Sherman. Mae’n deimlad braf gallu dod ag awduron ynghyd mewn gofod cefnogol i rannu a dysgu gyda’i gilydd. ”
Dywedodd Joe Murphy “Mae datblygu a chefnogi lleisiau gwreiddiol ym myd y theatr Gymreig trwy raglenni fel Cylch Sgwennu’r Sherman wrth wraidd ein bodolaeth yn Theatr y Sherman. Rydym yn falch iawn i weithio gyda 16 ysgrifennwr dros y naw mis nesaf sydd â rhywbeth unigryw i’w ddweud ac ni allwn aros i ddechrau gweithio gyda nhw i ddatblygu eu syniadau yn ddramâu cyflawn.”