Theatr y Sherman yn cyhoeddi cynyrchiadau crëwyd yn y Sherman a rhaglen artistig 2022

Uncategorized @cy
Mae Theatr y Sherman wedi cyhoeddi rhaglen waith feiddgar a blaengar i gynulleidfaoedd ac artistiaid yn 2022. Yn ganolog i'r rhaglen, mae pedwar cynhyrchiad newydd Gwnaed yn y Sherman o ddramâu gan sgriptwyr o Gymru neu sy'n gweithio yng Nghymru, sy'n cynnwys pedwar dangosiad cyntaf y byd. Ategir y gwaith ar lwyfannau Theatr y Sherman gan gynllun datblygu artistiaid mawr sy’n hybu ac yn dyrchafu ystod amrywiol o leisiau ym myd theatr Cymru.

Y cynyrchiadau Gwnaed yn y Sherman ar gyfer 2022 yw:

· Dance to the Bone gan Eleanor Yates ac Oliver Hoare (Stiwdio)

· A Hero of the People gan Brad Birch (Stiwdio)

· Tales of the Brothers Grimm gan Hannah McPake (Prif Dŷ)

· Elen Benfelen gan Elgan Rhys (Stiwdio)

Meddai Joe Murphy, Cyfarwyddwr Artistig Theatr y Sherman: “Dechreuodd ein gwaith i ailgysylltu ein cynulleidfaoedd â theatr fyw yn yr hydref. Nawr mae’n rhaid i ni edrych i’r dyfodol. Yn ystod tymor 2022, rydyn ni’n symud ymlaen yn llawn cyffro ac uchelgais ar gyfer ein hartistiaid, ein cynulleidfaoedd a’n cymunedau. Alla i ddim aros nes i ni ddechrau gweithio gyda’r awduron unigryw yma a fydd yn adrodd straeon anghyffredin i bobl Caerdydd a thu hwnt. Rydw i hefyd yn edrych ymlaen at weld beth fydd ein cyfranogwyr Lleisiau nas Clywir yn ei greu yn ystod y flwyddyn.”

Bydd y cynhyrchydd annibynnol Ceriann Williams, Neon Candle a Theatr y Sherman yn cyd-gynhyrchu’r perfformiad cyntaf o Dance to the Bone (25 Mawrth – 2 Ebrill) gan Eleanor Yates ac Oliver Hoare, dan gyfarwyddyd Joe Murphy. Strasbourg, 1518. Mae twymyn dirgel, sydd weithiau’n farwol, sy’n gorfodi’r rhai sydd wedi’u heintio i ddawnsio, yn gwneud ei ffordd drwy strydoedd y ddinas. 500 mlynedd yn ddiweddarach yn ne Cymru, mae’r dwymyn yn dychwelyd. Mae Joanne Bevan, sef gweithwraig unig a rhwystredig mewn canolfan alwadau, yn teimlo ei bod wedi’i datgysylltu oddi wrth ei theulu, ei chymuned a’i chorff ei hun. Un diwrnod mae Sant Vitus, sef y nawddsant dawnsio, yn ymweld â hi ac yn ei gwahodd i ddawnsio i gael gwared ar ei phroblemau. Ond beth fydd yn digwydd os yw hi wedi anghofio sut i ddawnsio? Beth fydd yn digwydd os na fydd hi’n gallu stopio? Beth fydd yn digwydd os bydd y dwymyn yn lledaenu? Mae Dance to the Bone yn adrodd stori Joanne drwy gymysgedd o ysgrifennu newydd, cerddoriaeth fyw a dawns.

Meddai Eleanor ac Oliver: “Allwn ni ddim aros i ddod â’n sioe gyntaf fel cwmni i Theatr y Sherman. Ar ôl chwarae cerddoriaeth gyda’n gilydd ers dros ddeng mlynedd, roedd yna un stori a oedd wedi’i hysbrydoli gan un o ganeuon Oliver na fyddai’n mynd i ffwrdd. Y mwyaf roedd hi’n tyfu, y mwyaf gwyllt daeth y stori, a doedd hi ddim yn ffitio’n daclus rhwng y caneuon mwyach. Daethon ni â’r ychydig ganeuon cyntaf a’r syniad ar gyfer Dance to the Bone i’r Sherman yn ôl yn 2019. Ers hynny, rydyn ni wedi cael cefnogaeth anhygoel gan y tîm yno i ddatblygu’r sioe. Ar ôl y ddwy flynedd ddiwethaf o ansicrwydd a chyfnodau clo, rydyn ni am iddo fod yn ddathliad o theatr a cherddoriaeth fyw. Allwn ni ddim aros i rannu’r stori yma gyda chynulleidfa”.

Cafodd cynhyrchiad Theatr y Sherman o fersiwn Brad Birch o An Enemy of the People gan Ibsen ei ohirio yn 2020 oherwydd y pandemig. Yn dilyn digwyddiadau’r pum mlynedd diwethaf, mae Brad Birch (Tremor Theatr y Sherman; Black Mountain Paines Plough, Theatr Clwyd a Theatr Orange Tree) wedi ailedrych ar ddrama Ibsen a’i hail-weithio fel A Hero of the People (13 – 28 Mai). Mae’r fersiwn yma’n gosod y personol yn erbyn y gwleidyddol, straeon yn erbyn realiti, ac emosiwn yn erbyn ffeithiau, gan greu drama sy’n siarad â’r byd rydyn ni ynddo erbyn heddiw.

Meddai Brad: “Rydw i wrth fy modd o gael cydweithio gyda Joe unwaith eto ar y sioe yma’n ôl gartre yn yr anhygoel Theatr y Sherman. Mae’r byd yn teimlo’n od ac yn fregus ac yn anrhagweladwy ar hyn o bryd, ac rydyn ni’n defnyddio’r cyfle yma i ailddweud un o’r mythau modern gwych, a cheisio gwneud synnwyr o’r peth.”

Mae’r Nadolig yn y Sherman bob amser yn gyfnod hudolus o’r flwyddyn. Yn 2022 byddwn yn llwyfannu dangosiadau cyntaf dwy sioe Nadolig newydd yn seiliedig ar straeon poblogaidd. Yn y Prif Dŷ, bydd cynulleidfaoedd 7+ oed yn mwynhau cynigion newydd, hwyliog a beiddgar ar straeon tylwyth teg clasurol yn Tales Of The Brothers Grimm (25 Tachwedd – 31 Rhagfyr) gan Hannah McPake (Tilting at Windmills Radical Reinventions, Rodney and the Shrieking Sisterhood cyfres sain Calon Caerdydd, Theatr y Sherman).

Meddai Hannah “Fel actor, rydw i wedi mwynhau bod yn rhan o sioeau Nadolig y Sherman yn fawr, mae ganddyn nhw ymdeimlad o hud a rhyfeddod go iawn. Felly fel awdur, alla i ddim aros i greu sioe newydd ar gyfer y Prif Dŷ yn 2022, a mynd â chynulleidfaoedd ar antur hwyliog ar draws Caerdydd yn 1913, gan ailddyfeisio’r chwedlau clasurol yma.”

Addasiad newydd o Elen Benfelen (4 a 5 Tachwedd, 28 Tachwedd – 31 Rhagfyr) gan Elgan Rhys (Woof Theatr y Sherman; Chwarae Theatr Iolo) fydd sioe Stiwdio’r Sherman ar gyfer plant 3-6 oed. Mae’r sioe wedi’i chyfieithu i’r Saesneg hefyd a bydd perfformiadau ar wahân yn y ddwy iaith.

Meddai Elgan “Dw i methu aros i ddod yn ôl i’r Sherman Nadolig nesa’ i ddangos tro modern i gynulleidfaoedd ar y chwedl deuluol boblogaidd yma. Yn ei hanfod, mae’n stori am ffitio i mewn, a bydd y fersiwn yma’n edrych ar beth mae hynny’n ei olygu yn ein normal newydd ni. Mae gan sioeau Nadolig y Sherman le arbennig yn fy nghalon, fel sy’n wir i gymaint o bobl, a bydd Elen Benfelen mor llawn o hud a cherddoriaeth ag erioed.”

Ers dechrau’r pandemig, mae Theatr Ieuenctid y Sherman wedi dod o hyd i ffyrdd arloesol o gynhyrchu, perfformio a rhannu gwaith hynod greadigol ar-lein. Ym mis Mawrth 2022, ar ôl saib o ddwy flynedd, bydd Theatr Ieuenctid y Sherman yn dychwelyd i’r Brif Theatr i berfformio o flaen cynulleidfa fyw unwaith eto. Cynhyrchiad y gwanwyn fydd Chat Back (3-5 Mawrth) gan David Judge, a gyfarwyddwyd gan Ashley Cummings, a fydd hefyd yn cael ei berfformio pan fydd Theatr y Sherman yn croesawu Gŵyl NT Connections 2022 rhwng 21 a 23 Ebrill.

Unwaith eto, mae Theatr y Sherman wedi curadu rhaglen gref ac amrywiol o sioeau gan gwmnïau teithiol, perfformwyr a digrifwyr ar gyfer gwanwyn 2022. Mae’r Sherman yn falch o barhau i fod yn llwyfan i’n cwmnïau cenedlaethol, a bydd yn croesawu Theatr Genedlaethol Cymru a National Theatre Wales gyda’u cyd-gynhyrchiad â chwmni August 012 o Petula gan Fabrice Melquiot, wedi’i addasu a’i gyfieithu gan Artist Cyswllt Theatr y Sherman, Daf James, a’i gyfarwyddo gan Mathilde Lopez.

Wedi ei aildrefnu o 2020, bydd comedi gerddorol ffyrnig Artist Cyswllt Theatr y Sherman, Seiriol Davies, sef Milky Peaks yn y theatr rhwng 4 a 7 Mai. I deuluoedd, mae Theatr Lyngo yn dychwelyd i’r Sherman gyda’u cynhyrchiad hudolus o Tom Thumb (23 a 24 Chwefror). Hefyd yn dychwelyd i’r Sherman mae Cwmni Llwyfan Birmingham gyda’u sioe Horrible Histories hynod boblogaidd: Sioe Terrible Tudors ar 13 ac 14 Ebrill. Mae rhaglen gomedi’r gwanwyn yn cynnwys sioe Mark Thomas (15 Chwefror, a aildrefnwyd o 2020), Flo a Joan (16 Chwefror) a Matt Forde (14 Ebrill, aildrefnwyd o 2020). Mae tymor gwanwyn Theatr y Sherman hefyd yn cynnwys noson gyda’r arwr rygbi Shane Williams (2 Chwefror), My Last Supper: One Meal A Lifetime In The Making gyda Jay Rayner (17 Chwefror, aildrefnwyd o 2020) a La Voix (19 Chwefror).

Yng ngwanwyn 2020, ychydig cyn dechrau’r cyfnod clo cyntaf, cyhoeddodd Theatr y Sherman fenter Lleisiau nas Clywir i helpu i sicrhau bod lleisiau nad ydynt yn cael eu clywed ym myd theatr Cymru yn cael eu clywed. Bydd y rhaglen bellach yn cael ei chynnal drwy gydol 2022 gyda ffocws estynedig. Bydd Lleisiau nas Clywir yn cysylltu, yn ysbrydoli ac yn grymuso 20 o sgriptwyr o Gymru neu sy’n gweithio yng Nghymru sy’n Fenywod, o Gymuned Ethnig Amrywiol, sy’n LHDTC+, neu sy’n F/fyddar neu’n anabl. Bydd Lleisiau nas Clywir yn galluogi cyfranogwyr i ddatblygu eu sgiliau drwy gyfres o 12 dosbarth meistr ar-lein a gyflwynir gan ffigurau allweddol ym maes theatr, sy’n arddel un neu fwy o’r hunaniaethau uchod. Bydd cyfranogwyr hefyd yn adeiladu eu rhwydwaith proffesiynol ac yn cychwyn ar gydberthynas hirhoedlog gyda Theatr y Sherman. Mae’r rhaglen yn gyfle gwerthfawr i gyfranogwyr rannu eu llais a chael cefnogaeth gan eu cyfoedion a Theatr y Sherman. Tîm Llenyddol Theatr y Sherman fydd yn arwain menter Lleisiau nas Clywir: Branwen Davies fel Rheolwr Llenyddol ac Alice Eklund fel Cydymaith Llenyddol. Mae ceisiadau nawr ar agor a 31 Rhagfyr yw’r dyddiad cau. I gael rhagor o fanylion, cliciwch yma.

Meddai Branwen Davies: “Ein nod gyda menter Lleisiau nas Clywir yw grymuso awduron o wahanol gefndiroedd a phrofiadau byw na fyddai efallai wedi cael cyfle i rannu a datblygu eu sgiliau ysgrifennu yn flaenorol. Rydyn ni am hybu a dyrchafu’r lleisiau yma a darparu llwyfan a chefnogaeth ar gyfer straeon y mae angen eu clywed a’u rhannu. Yn ogystal â dysgu sgiliau newydd gydag ymarferwyr arbenigol mewn cyfres o weithdai, bydd yr awduron hefyd yn meithrin cydberthynas gyda’r Sherman ac yn cael cyfle i rwydweithio ac ymgysylltu.”

Mae Theatr y Sherman wedi cyhoeddi mai Nia Morais fydd ei Awdur Preswyl newydd. Roedd drama gyntaf Nia, Crafangau, yn rhan o gyfres sain Calon Caerdydd y Sherman ac fe’i perfformiwyd hi’n fyw mewn sioeau awyr agored yn ystod haf 2021. Meddai Nia Morais: “Rydw i wrth fy modd mai fi yw Awdur Preswyl newydd y Sherman! Alla i ddim aros i gael dechrau ehangu fy nghreadigrwydd drwy weithio gyda thîm y Sherman.”

Bydd yr actor a’r sgriptwraig Mali Ann Rees yn ymuno â Seiriol Davies, Hayley Grindle, Daf James, Kyle Lima, Patricia Logue a Suzanne Packer fel Artist Cyswllt Theatr y Sherman. Mae Artistiaid Cyswllt Theatr y Sherman yn gwneud cyfraniad sylweddol gyda’u harbenigedd a’u cyngor i helpu i gynnal rhagoriaeth artistig y Sherman.